1Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Asareia mab Oded.
2Ac efe a aeth allan o flaen Asa, ac a ddywedodd wrtho, O Asa, a holl Jwda, a Benjamin, gwrandewch fi; ddinistriwyd gan genedl, a dinas gan ddinas: oblegid Duw oedd yn eu poeni hwy â phob aflwydd.
7Ymgryfhewch gan hynny, ac na laesed eich dwylo: canys y mae gwobr i’ch gwaith chwi.
8A phan glybu Asa y geiriau hyn, a phroffwydoliaeth Oded y proffwyd, efe a gryfhaodd, ac a fwriodd ymaith y ffiaidd eilunod o holl wlad Jwda, a Benjamin, ac o’r holl ddinasoedd a enillasai efe o fynydd Effraim, ac a adnewyddodd allor yr Arglwydd, yr hon oedd o flaen porth yr Arglwydd.
9Ac efe a gynullodd holl Jwda, a Benjamin, a’r ddelw mewn llwyn: ac Asa a dorrodd ei delw hi, ac a’i drylliodd, ac a’i llosgodd wrth afon Cidron.
17Ond Pen 14:3, 5ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd o Israel: eto yr oedd calon Asa yn berffaith ei holl ddyddiau ef.
18Ac efe a ddug i mewn i dŷ yr Arglwydd yr hyn a gysegrasai ei dad, a’r hyn a gysegrasai efe ei hun, arian, ac aur, a llestri.
19Ac ni bu ryfel mwyach hyd y bymthegfed flwyddyn ar hugain o deyrnasiad Asa.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
