1Ac ar ôl hyn yr oedd gan Absalom mab Dafydd chwaer deg, a’i henw Tamar: ac Amnon mab Dafydd a’i carodd hi.
2Ac yr oedd mor flin ar Amnon, fel y clafychodd efe oherwydd Tamar ei chwaer: canys gwyry oedd hi; ac anodd y gwelai Amnon wneuthur dim iddi hi.
3Ond gan Amnon yr oedd cyfaill, a’i enw Jonadab, mab curio fel hyn beunydd? oni fynegi di i mi? Ac Amnon a ddywedodd wrtho ef, Caru yr ydwyf fi Tamar, chwaer Absalom fy mrawd.
5A Jonadab a ddywedodd wrtho ef, Gorwedd ar dy wely, a chymer arnat fod yn glaf: a phan ddelo dy dad i’th edrych, dywed wrtho ef, Deued, atolwg, Tamar fy chwaer i roddi bwyd i mi, ac i arlwyo’r bwyd yn fy ngolwg, fel y gwelwyf, ac y bwytawyf o’i llaw hi.
6Felly Amnon a orweddodd, ac a gymerth arno fod yn glaf. A’r brenin a ddaeth i’w edrych ef; ac Amnon a ddywedodd wrth y brenin, Deued, atolwg, Tamar fy chwaer i grasu dwy deisen yn fy ngolwg i, fel y bwytawyf o’i llaw hi.
7Yna Dafydd a anfonodd adref at Tamar, gan ddywedyd, Dos yn awr i dŷ Amnon dy frawd, a pharatoa fwyd iddo.
8Felly Tamar a aeth i dŷ Amnon ei brawd; ac efe oedd yn gorwedd: a hi a gymerth beilliaid, ac a’i tylinodd, ac a wnaeth deisennau yn ei ŵydd ef, ac a grasodd y teisennau.
9A hi a gymerth badell, ac a’u tywalltodd hwynt ger ei fron ef: ond efe a wrthododd fwyta. Ac Amnon a ddywedodd, Gyrrwch allan bawb oddi wrthyf fi. A phawb a aethant allan oddi wrtho ef.
10Yna Amnon a ddywedodd wrth Tamar, Dwg y bwyd i’r ystafell, fel y bwytawyf o’th law di. A Thamar a gymerth y teisennau a wnaethai hi, ac a’u dug at Amnon ei brawd i’r ystafell.
11A phan ddug hi hwynt ato ef i fwyta, efe a ymaflodd ynddi hi, ac a ddywedodd wrthi hi, Tyred, gorwedd gyda mi, fy chwaer.
12A hi a ddywedodd wrtho, Paid, fy mrawd; na threisia fi: canys oni orchmynnais i chwi? ymwrolwch, a byddwch feibion glewion.
29A llanciau Absalom a wnaethant i Amnon fel y gorchmynasai Absalom. A holl feibion y brenin a gyfodasant, a phob un a farchogodd ar ei ful, ac a ffoesant.
30A thra yr oeddynt hwy ar y ffordd, y daeth y chwedl at Dafydd, gan ddywedyd, Absalom a laddodd holl feibion y brenin, ac ni adawyd un ohonynt.
31Yna y brenin a gyfododd, ac ym mryd Absalom hynny, er y dydd y treisiodd efe Tamar ei chwaer ef.
33Ac yn awr na osoded fy arglwydd frenin y peth at ei galon, gan dybied farw holl feibion y brenin: canys Amnon yn unig a fu farw.
34Ond Absalom a ffodd. A’r llanc yr hwn oedd yn gwylio a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele bobl lawer yn dyfod ar hyd y ffordd o’i ôl ef, ar hyd ystlys y mynydd.
35A Jonadab a ddywedodd wrth y brenin, Wele feibion y brenin yn dyfod: fel y dywedodd dy was, felly y mae.
36A phan orffenasai efe ymddiddan, wele, meibion y brenin a ddaethant, ac a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant. A’r brenin hefyd a’i holl weision a wylasant ag wylofain mawr iawn.
37Ac Absalom a ffodd, ac a aeth at Ammihud brenin Gesur: a Dafydd a alarodd am ei fab bob dydd.
38Ond Absalom a ffodd, ac a aeth i Gesur; ac yno y bu efe dair blynedd.
39Ac enaid Dafydd y brenin a hiraethodd am fyned at Absalom: canys efe a gysurasid am Amnon, gan ei farw efe.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.