1Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Tyred i fyny at yr Arglwydd, ti ac Aaron, Nadab ac Abihu, a’r deg a thrigain o henuriaid Israel; ac addolwch o hirbell.
2Ac aed Moses ei hun at yr Arglwydd; ac na ddelont hwy, ac nac aed y bobl i fyny gydag ef.
3A Moses a ddaeth, ac a fynegodd i’r bobl holl eiriau yr Arglwydd, a’r holl farnedigaethau. Ac atebodd yr holl bobl yn unair, ac a ddywedasant, ad. 7; Pen 19:8; Deut 5:27Ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd.
4A Moses a ysgrifennodd holl eiriau yr Arglwydd; ac a gododd yn fore, ac a adeiladodd allor islaw y mynydd, a deuddeg colofn, yn ôl deuddeg llwyth Israel.
5Ac efe a anfonodd lanciau meibion Israel; a hwy a offrymasant boethoffrymau, ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i’r Arglwydd.
6A chymerodd Moses hanner y gwaed, ac a’i gosododd mewn cawgiau, a hanner y gwaed a daenellodd efe ar yr allor.
7Ac efe a gymerth lyfr y cyfamod, ac a’i darllenodd lle y clywai’r bobl. A dywedasant, ad. 3Ni a wnawn, ac a wrandawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd.
8A chymerodd Moses y gwaed, ac a’i taenellodd ar y bobl; ac a ddywedodd, Wele Heb 9:20; 13:20; 1 Pedr 1:2waed y cyfamod, yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi, yn ôl yr holl eiriau hyn.
9Yna yr aeth Moses i fyny, ac Aaron, Nadab ac Abihu, a deg a thrigain o henuriaid Israel.
10A gwelsant Dduw Israel; a than ei draed megis gwaith o faen Esec 1:26; 10:1saffir, ac fel corff y nefoedd o ddisgleirder.
11Ac ni roddes ei law ar bendefigion meibion Israel; ond Gen 16:13; 32:30; Pen 33:20; Deut 4:33; Barn 13:22gwelsant Dduw, a bwytasant ac yfasant.
12A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Tyred i fyny ataf i’r mynydd, a bydd yno: a mi a roddaf i ti Pen 31:18; 32:16lechau cerrig, a chyfraith, a gorchmynion, y rhai a ysgrifennais, i’w dysgu hwynt.
13A chododd Moses, a Josua Pen 32:17ei weinidog; ac aeth Moses i fyny i fynydd Duw.
14Ac wrth yr henuriaid y dywedodd, Arhoswch ni yma, hyd oni ddelom ni atoch drachefn: ac wele, Aaron a Hur gyda chwi; pwy bynnag a fyddo ag achos iddo, deued atynt hwy.
15A Moses a aeth i fyny i’r mynydd; a Pen 19:9, 16chwmwl a orchuddiodd y mynydd.
16A Num 14:10gogoniant yr Arglwydd a arhodd ar fynydd Sinai, a’r cwmwl a’i gorchuddiodd chwe diwrnod: ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y cwmwl.
17A’r golwg ar ogoniant yr Arglwydd oedd fel tân Deut 4:36yn difa ar ben y mynydd, yng ngolwg meibion Israel.
18A Moses a aeth i ganol y cwmwl, ac a aeth i fyny i’r mynydd: a Pen 34:28; Deut 9:9bu Moses yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.