1Yna y Philistiaid a gynullasant eu holl fyddinoedd i Affec: a’r Israeliaid oedd yn gwersyllu wrth ffynnon sydd yn Jesreel.
2A thywysogion y Philistiaid oedd yn tramwy yn gannoedd, ac yn filoedd: ond Dafydd a’i wŷr oedd yn cerdded yn olaf gydag Achis.
3Yna tywysogion y Philistiaid a ddywedasant, Beth a wna yr Hebreaid hyn yma? Ac Achis a ddywedodd wrth dywysogion y Philistiaid, Onid dyma Dafydd, gwas Saul brenin Israel, yr hwn a fu gyda mi wrth fodd y tywysogion.
7Dychwel yn awr, gan hynny, a dos mewn heddwch, ac na anfodlona dywysogion y Philistiaid.
8A dywedodd Dafydd wrth Achis, Ond beth a wneuthum i? a pheth a gefaist ti yn dy was, o’r dydd y deuthum o’th flaen di hyd y dydd hwn, fel na ddelwn i ymladd yn erbyn gelynion fy arglwydd frenin?
9Ac Achis a atebodd ac a ddywedodd wrth Dafydd, Gwn mai da wyt ti yn fy ngolwg i, megis angel Duw: ond tywysogion y Philistiaid a ddywedasant, Ni ddaw efe i fyny gyda ni i’r rhyfel.
10Am hynny yn awr cyfod yn fore, a gweision dy feistr y rhai a ddaethant gyda thi: a phan gyfodoch yn fore, a phan oleuo i chwi ewch ymaith.
11Felly Dafydd a gyfododd, efe a’i wŷr, i fyned ymaith y bore, i ddychwelyd i dir y Philistiaid. A’r Philistiaid a aethant i fyny i Jesreel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
