1Yna Bislam, Mithredath, Tabeel, a’r rhan arall o’u cyfeillion, at Artacsercses brenin Persia; ac ysgrifen y llythyr a ysgrifennwyd yn Syriaeg, ac a eglurwyd yn Syriaeg.
8Rehum y cofiadur a Simsai yr ysgrifennydd a ysgrifenasant lythyr yn erbyn Jerwsalem at Artacsercses y brenin, fel hyn:
9Yna yr ysgrifennodd Rehum y cofiadur, a Simsai yr ysgrifennydd, a’r rhan arall o’u cyfeillion, y Dinaiaid, yr Affarsathchiaid, y Tarpeliaid, yr Affarsiaid, yr Archefiaid, y Babiloniaid, y Susanchiaid, y Dehafiaid, yr Elamiaid,
10A’r rhan arall o’r bobl y rhai a ddug Asnappar mawr ac enwog, ac a osododd efe yn ninasoedd Samaria, a’r rhan arall tu yma i’r afon, drysor y brenhinoedd.
14Ac yn awr oherwydd ein bod ni yn cael ein cynhaliaeth o lys y brenin, ac nad oedd weddaidd i ni weled gwarth y brenin; am hynny yr anfonasom ac yr hysbysasom i’r brenin,
15Fel y ceisier yn llyfr historïau dy dadau: a thi a gei yn llyfr yr historïau, ac a elli wybod, fod y ddinas hon yn ddinas wrthryfelgar, niweidiol i frenhinoedd a thaleithiau, a bod yn gwneuthur brad‐fwriad o fewn hon er ys talm: am hynny y dinistriwyd y ddinas hon.
16Yr ydym yn hysbysu i’r brenin, os y ddinas hon a adeiledir, a’r muriau a sylfaenir, wrth hynny ni fydd i ti ran o’r tu yma i’r afon.
17 Yna yr anfonodd y brenin air at Rehum y cofiadur, a Simsai yr ysgrifennydd, a’r rhan arall o’u cyfeillion hwynt y rhai a drigent yn Samaria, ac at y lleill o’r tu hwnt i’r afon, Tangnefedd, a’r amser a’r amser.
18Y llythyr a anfonasoch ataf, a ddarllenwyd yn eglur ger fy mron.
19A mi a osodais orchymyn, a chwiliwyd; a chafwyd fod y ddinas hon er ys talm yn ymddyrchafu yn erbyn brenhinoedd, a gwneuthur ynddi anufudd‐dod a gwrthryfel.
20A brenhinoedd cryfion a fu ar Jerwsalem, yn llywodraethu ar bawb o’r tu hwnt i’r afon; ac iddynt hwy y rhoddid toll, teyrnged, a threth.
21Yn awr rhoddwch orchymyn, i beri i’r gwŷr hynny beidio, ac nad adeilader y ddinas honno, hyd oni roddwyf fi orchymyn eto.
22A gwyliwch wneuthur yn amryfus yn hyn: paham y tyf niwed i ddrygu y brenhinoedd?
23Yna pan ddarllenwyd ystyr llythyr Artacsercses y brenin o flaen Rehum a Simsai yr ysgrifennydd, a’u cyfeillion, hwy a aethant i fyny ar frys i Jerwsalem at yr Iddewon, ac a wnaethant iddynt beidio trwy fraich a chryfder.
24Yna y peidiodd gwaith tŷ Dduw yr hwn sydd yn Jerwsalem; ac y bu yn sefyll hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius brenin Persia.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.