1A Jefftha y Gileadiad oedd ŵr cadarn nerthol, ac efe oedd fab i wraig o buteinwraig: a Gilead a genedlasai y Jefftha hwnnw.
2A gwraig Gilead a ymddûg iddo feibion: a meibion y wraig a gynyddasant, ac a fwriasant ymaith Jefftha, ac a ddywedasant wrtho, Nid etifeddi di yn nhŷ ein tad ni; canys mab gwraig ddieithr ydwyt ti.
3Yna Jefftha a ffodd rhag ei frodyr, ac a drigodd yng ngwlad Tob; a dynion dyst rhyngom ni, oni wnawn ni felly yn ôl dy air di.
11Yna Jefftha a aeth gyda henuriaid Gilead; a’r bobl a’i gosodasant ef yn ben ac yn dywysog arnynt: a Jefftha a adroddodd ei holl eiriau hwn a ddelo allan o ddrysau fy nhŷ i’m cyfarfod, pan ddychwelwyf mewn heddwch oddi wrth feibion Ammon, a fydd eiddo yr Arglwydd, a mi a’i hoffrymaf ef yn boethoffrwm.
32Felly Jefftha a aeth drosodd at feibion Ammon i ymladd yn eu herbyn; a’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn ei law ef.
33Ac efe a’u trawodd hwynt o Aroer hyd oni ddelych di i Minnith, sef ugain dinas, a hyd wastadedd y gwinllannoedd, â lladdfa fawr iawn. Felly y darostyngwyd meibion Ammon o flaen meibion Israel.
34A Jefftha a ddaeth i Mispa i’w dŷ ei hun: ac wele na mab na merch ond hyhi.
35A phan welodd efe hi, efe a rwygodd ei ddillad, ac ddywedodd, Ah! ah! fy merch, gan ddarostwng y darostyngaist fi; ti hefyd wyt un o’r rhai sydd yn fy molestu: canys myfi a agorais fy ngenau wrth yr Arglwydd, ac ni allaf gilio.
36A hi a ddywedodd wrtho, Fy nhad, od agoraist dy enau wrth yr Arglwydd, gwna i mi yn ôl yr hyn a aeth allan o’th enau; gan i’r Arglwydd wneuthur drosot ti ddialedd ar dy elynion, meibion Ammon.
37Hi a ddywedodd hefyd wrth ei thad, Gwneler i mi y peth hyn; paid â mi ddau fis, fel yr elwyf i fyny ac i waered ar y mynyddoedd, ac yr wylwyf oherwydd fy morwyndod, mi a’m cyfeillesau.
38Ac efe a ddywedodd, Dos. Ac efe a’i gollyngodd hi dros ddau fis. A hi a aeth â’i chyfeillesau, ac a wylodd oherwydd ei morwyndod ar y mynyddoedd.
39Ac ymhen y ddau fis hi a ddychwelodd at ei thad: ac efe a wnaeth â hi yr adduned a addunasai efe: a hi ni adnabuasai ŵr. A bu hyn yn ddefod yn Israel,
40Fyned o ferched Israel bob blwyddyn i alaru am ferch Jefftha y Gileadiad, bedwar diwrnod yn y flwyddyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.