Mathew 4 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 27. —1 Ympryd Crist, a’i demtiad. 11 Yr angylion yn gweini iddo. 13 Efe yn trigo yn Capernaum, 17 yn dechrau pregethu, 18 yn galw Pedr ac Andreas, 21 Iago ac Ioan; 23 ac yn iacháu yr holl gleifion.

1Yna yr Marc 1:12; Luc 4:1Iesu a arweiniwyd i fyny i’r anialwch gan yr Ysbryd, i’w demtio gan ddiafol.

2Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, ar ôl hynny efe a newynodd.

3A’r temtiwr pan ddaeth ato, a ddywedodd, Os mab Duw wyt ti, arch i’r cerrig hyn fod yn fara.

4Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Ysgrifennwyd, Deut 8:3Nid trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw.

5Yna y cymerth diafol ef i’r Neh 11:1; Esa 48:2; Pen 27:53ddinas sanctaidd, ac a’i gosododd ef ar binacl y deml;

6Ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr; canys ysgrifennwyd, Salm 91:11Y rhydd efe orchymyn i’w angylion amdanat; a hwy a’th ddygant yn eu dwylo, rhag taro ohonot un amser dy droed wrth garreg.

7Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ysgrifennwyd drachefn, Deut 6:16Na themtia yr Arglwydd dy Dduw.

8Trachefn y cymerth diafol ef i fynydd tra uchel, ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd, a’u gogoniant;

9Ac a ddywedodd wrtho, Hyn oll a roddaf i ti, os syrthi i lawr a’m haddoli i.

10Yna yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ymaith, Satan; canys ysgrifennwyd, Deut 6:13; 10:20; 1 Sam 7:3Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.

11Yna y gadawodd diafol ef: ac wele, angylion a ddaethant, ac a weiniasant iddo.

12A Marc 1:14; Luc 3:20; 4:14, 31; Ioan 4:43phan glybu’r Iesu draddodi Ioan, efe a aeth i Galilea.

13A chan ado Nasareth, efe a aeth ac a arhosodd yng Nghapernaum, yr hon sydd wrth y môr, yng nghyffiniau Sabulon a Neffthali:

14Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd,

15Esa 9:1, 2Tir Sabulon, a thir Neffthali, wrth ffordd y môr, tu hwnt i’r Iorddonen, Galilea’r Cenhedloedd:

16Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch, a welodd oleuni mawr; ac i’r rhai a eisteddent ym mro a chysgod angau, y cyfododd goleuni iddynt.

17 Marc 1:14 O’r pryd hwnnw y dechreuodd yr Iesu bregethu, a dywedyd, Pen 3:2; 10:7Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd.

18 Marc 1:16; Luc 5:2 A’r Iesu yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu ddau frodyr, Simon, yr hwn Ioan 1:42a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i’r môr; canys pysgodwyr oeddynt:

19Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ôl i, a mi a’ch gwnaf yn bysgodwyr dynion.

20A hwy yn y fan, gan adael y rhwydau, a’i canlynasant ef.

21Marc 1:19Ac wedi myned rhagddo oddi yno, efe a welodd ddau frodyr eraill, Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd, mewn llong gyda Sebedeus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau; ac a’u galwodd hwy.

22Hwythau yn ebrwydd, gan adael y llong a’u tad, a’i canlynasant ef.

23A’r Iesu a aeth o amgylch holl Galilea, Pen 9:35gan ddysgu yn eu synagogau, a phregethu efengyl y deyrnas, ac iacháu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl.

24Ac aeth sôn amdano ef trwy holl Syria; a hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a’r rhai yr oedd amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala, a’r rhai cythreulig, a’r rhai lloerig, a’r sawl oedd â’r parlys arnynt; ac efe a’u hiachaodd hwynt.

25Marc 3:7A thorfeydd lawer a’i canlynasant ef o Galilea, a Decapolis, a Jerwsalem, a Jwdea, ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help