1A rhandir llwyth meibion Jwda, yn ôl eu teuluoedd, ydoedd graig sydd yn wynebu tua’r deau.
3Ac yr oedd yn myned allan o’r deau hyd riw Acrabbim, ac yr oedd yn myned rhagddo i Sin, ac yn myned i fyny o du y deau i Cades‐barnea; ac yn myned hefyd i Hesron, ac yn esgyn i Adar, ac yn amgylchynu i Carcaa.
4Ac yr oedd yn myned tuag Asmon, ac yn myned allan i afon yr Aifft; ac eithafoedd y terfyn hwnnw oedd wrth y môr: hyn fydd i chwi yn derfyn deau.
5A’r terfyn tua’r dwyrain yw y môr heli, hyd eithaf yr Iorddonen: a’r terfyn o du y gogledd, sydd o graig y môr, yn eithaf yr Iorddonen.
6A’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Beth‐hogla, ac yn myned o’r gogledd hyd Beth‐araba; a’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny at faen Bohan mab Reuben.
7A’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Debir o ddyffryn Achor, a thua’r gogledd yn edrych tua Gilgal, o flaen rhiw Adummim, yr hon sydd o du y deau i’r afon: y terfyn hefyd sydd yn myned hyd ddyfroedd En‐semes, a’i gwr eithaf sydd wrth a Gederothaim; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd.
37Senan, a Hadasa, a Migdal‐gad,
38A Dilean, a Mispe, a Joctheel,
39Lachis, a Boscath, ac Eglon,
40Chabbon hefyd, a Lahmam, a Chithlis,
41A Gederoth, Beth‐dagon, a Naama, a Macceda; un ddinas ar bymtheg, a’u pentrefydd.
42Libna, ac Ether, ac Asan,
43A Jiffta, ac Asna, a Nesib,
44Ceila hefyd, ac Achsib, a Maresa; naw o ddinasoedd, a’u pentrefi.
45Ecron, a’i threfi, a’i phentrefydd:
46O Ecron hyd y môr, yr hyn oll oedd gerllaw Asdod, a’u pentrefydd:
47Asdod, a’i threfydd, a’i phentrefydd; Gasa, a’i threfydd, a’i phentrefydd, hyd afon yr Aifft; a’r môr mawr, a’i derfyn.
48Ac yn y mynydd‐dir; Samir, a Jattir, a Socho,
49A Danna, a Ciriath‐sannath, honno yw Debir,
50Ac Anab, ac Astemo, ac Anim,
51A Gosen, a Holon, a Gilo; un ddinas ar ddeg, a’u pentrefydd.
52Arab, a Duma, ac Esean,
53A Janum, a Beth‐tappua, ac Affeca,
54A Humta, a Pen 14:15Chaer‐arba, honno yw Hebron, a Sïor; naw dinas, a’u trefydd.
55Maon, Carmel, a Siff, a Jutta,
56A Jesreel, a Jocdeam, a Sanoa,
57Cain, Gibea, a Thimna; deg o ddinasoedd, a’u pentrefydd.
58Halhul, Beth‐sur, a Gedor,
59A Maarath, a Beth‐anoth, ac Eltecon; chwech o ddinasoedd, a’u pentrefydd.
60Ciriath‐baal, honno yw Ciriath‐jearim, a Rabba; dwy ddinas, a’u pentrefydd.
61Yn yr anialwch; Beth‐araba, Midin, a Sechacha,
62A Nibsan, a dinas yr halen, ac En‐gedi; chwech o ddinasoedd, a’u pentrefydd.
63Ond Edrych Barn 1:8; 2 Sam 5:6ni allodd meibion Jwda yrru allan y Jebusiaid, trigolion Jerwsalem: Barn 1:21am hynny y trig y Jebusiaid gyda meibion Jwda yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.