2 Samuel 24 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Satan yn temtio Dafydd, ac yntau yn gyrru Joab i rifo y bobl. 5 Y capteiniaid, ym mhen y naw mis a’r ugain niwrnod, yn dwyn cyfrif o dri chan mil ar ddeg o ryfelwyr. 10 Dafydd yn cael ei ddewis o dri pla; ac yn dewis tridiau o’r nodau: 15 ac wedi lladd deng mil a thrigain o’r bobl, yn edifarhau, ac wrth hynny yn achub dinistr Jerusalem. 18 Dafydd, trwy gyngor Gad, yn prynu llawr‐dyrnu Arafna; a’r pla yn peidio, wedi iddo ef aberthu.

1A thrachefn dicllonedd yr Arglwydd a enynnodd yn erbyn Israel; ac efe a anogodd Dafydd yn eu herbyn hwynt, i ddywedyd, Dos yn awr trwy holl lwythau Israel, dyffryn Gad, a thua Jaser.

6Yna y daethant i Gilead, ac i wlad Tahtim‐hodsi; daethant hefyd i Dan‐jaan, ac o amgylch i Sidon;

7Daethant hefyd i amddiffynfa Tyrus, ac i holl ddinasoedd yr Hefiaid, a’r Canaaneaid; a hwy a aethant i du deau Jwda, i Beer‐seba.

8Felly y cylchynasant yr holl wlad, ac a ddaethant ymhen naw mis ac ugain niwrnod i Jerwsalem.

9A rhoddes Joab nifer cyfrif y bobl at y brenin: ac Israel ydoedd wyth gan mil o wŷr grymus yn tynnu cleddyf; a gwŷr Jwda oedd bum can mil o wŷr.

10A Arafna y Jebusiad.

19A Dafydd a aeth i fyny, yn ôl gair Gad, fel y gorchmynasai yr Arglwydd.

20Ac Arafna a edrychodd, ac a ganfu y brenin a’i weision yn dyfod tuag ato. Ac Arafna a aeth allan, ac a ostyngodd ei wyneb i lawr gerbron y brenin.

21Ac Arafna a ddywedodd, Paham y daeth fy arglwydd frenin at ei was? Edrych Gen 23:8–16A dywedodd Dafydd, I brynu gennyt ti y llawr dyrnu, i adeiladu allor i’r Arglwydd, fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl.

22A dywedodd Arafna wrth Dafydd, Cymered, ac offrymed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg: wele yr 1 Bren 19:21ychen yn boethoffrwm, a’r ffustiau ac offer yr ychen yn lle cynnud.

23Hyn oll a roddodd Arafna, megis brenin, i’r brenin. A dywedodd Arafna wrth y brenin, Yr Arglwydd dy Dduw a fyddo bodlon i ti.

24A dywedodd y brenin wrth Arafna, Nage; eithr gan brynu y prynaf ef mewn pris gennyt: ac nid offrymaf i’r Arglwydd fy Nuw boethoffrymau rhad. Felly Edrych 1 Cron 21:25Dafydd a brynodd y llawr dyrnu a’r ychen, er deg a deugain o siclau arian.

25Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i’r Arglwydd, ac a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd. A’r Arglwydd a gymododd â’r wlad, a’r pla a ataliwyd oddi wrth Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help