Jeremeia 37 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Wedi darfod i’r Eifftiaid yrru y Caldeaid ymaith o warchae ar Jerusalem, y mae y brenin Sedeceia yn anfon at Jeremeia i weddïo dros y bobl. 6 Jeremeia yn proffwydo y dychwelai y Caldeaid, ac y gorchfygent. 11 Ei ddal ef megis ffoadur, a’i faeddu, a’i garcharu. 16 Y mae efe yn sicrhau Sedeceia o’r caethiwed: 18 yn ymbil am gael ei ollwng yn rhydd; ac yn cael peth ffafr.

1A’r brenin eich hunain, gan ddywedyd, Diau yr â y Caldeaid oddi wrthym ni: oblegid nid ânt hwy.

10Canys pe trawech chwi holl lu y Caldeaid y rhai sydd yn rhyfela i’ch erbyn; fel na weddillid ohonynt ond gwŷr archolledig, eto hwy a gyfodent bob un yn ei babell, ac a losgent y ddinas hon â thân.

11A phan aeth llu y Caldeaid ymaith oddi wrth Jerwsalem, rhag llu Pharo,

12Yna Jeremeia a aeth allan o Jerwsalem, i fyned i wlad Benjamin, i ymlithro oddi yno yng nghanol y bobl.

13A phan oedd efe ym mhorth Benjamin, yr oedd yno ben‐swyddog, a’i enw ef oedd Ireia, mab Selemeia, mab Hananeia; ac efe a ddaliodd Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd, Cilio at y Caldeaid yr wyt ti.

14Yna y dywedodd Jeremeia, Nid gwir; nid ydwyf fi yn cilio at y Caldeaid. Ond ni wrandawai efe arno: felly Ireia a ymaflodd yn Jeremeia, ac a’i dygodd ef at y tywysogion.

15Am hynny y tywysogion a ddigiasant wrth Jeremeia, ac a’i trawsant, ac a’i rhoddasant yn y carchardy yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd: oherwydd hwnnw a wnaethent hwy yn garchardy.

16Pan ddaeth Jeremeia i’r daeardy, ac i’r cabanau, ac wedi i Jeremeia aros yno ddyddiau lawer;

17Yna y brenin Sedeceia a anfonodd, ac a’i cymerodd ef allan: a’r brenin a ofynnodd iddo yn gyfrinachol yn ei dŷ ei hun, ac a ddywedodd, A oes gair oddi wrth yr Arglwydd? A dywedodd Jeremeia, Oes; canys tydi (eb efe) a roddir yn llaw brenin Babilon.

18Jeremeia hefyd a ddywedodd wrth y brenin Sedeceia, Pa bechod a wneuthum i i’th erbyn di, neu yn erbyn dy weision, neu yn erbyn y bobl hyn, pan y’m rhoddasoch yn y carchardy?

19Pa le y mae eich proffwydi a broffwydasant i chwi, gan ddywedyd, Ni ddaw brenin Babilon i’ch erbyn, nac yn erbyn y wlad hon?

20Ac yn awr gwrando, atolwg, O fy arglwydd frenin: atolwg, deued fy ngweddi ger dy fron; fel na pharech i mi ddychwelyd i dŷ Jonathan yr ysgrifennydd, rhag fy marw yno.

21Yna y brenin Sedeceia a orchmynnodd iddynt hwy roddi Jeremeia Pen 32:2yng nghyntedd y carchardy, a rhoddi iddo ef deisen o fara beunydd o heol y pobyddion, nes darfod yr holl fara yn y ddinas. Felly Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help