Eseciel 2 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Awdurdod Eseciel, 6 a’i addysg. 9 Plyg llyfr ei orthrwm broffwydoliaeth ef.

1Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, saf ar dy draed, a mi a lefaraf wrthyt.

2genedl wrthryfelgar, y rhai a wrthryfelasant i’m herbyn; gwrthryfelgar ydynt.

7Eto llefara di fy ngeiriau wrthynt, pa un bynnag a wnelont ai gwrando ai peidio; canys gwrthryfelgar ydynt.

8Tithau fab dyn, gwrando yr hyn yr ydwyf fi yn ei lefaru wrthyt, Na fydd di wrthryfelgar fel y tŷ gwrthryfelgar hwn: lleda dy safn, a Dat 10:9bwyta yr hyn yr ydwyf fi yn ei roddi i ti.

9Yna yr edrychais, ac wele law wedi ei hanfon ataf, ac wele ynddi blyg llyfr.

10Ac efe a’i dadblygodd o’m blaen i: ac yr oedd efe wedi ei ysgrifennu wyneb a chefn; ac yr oedd wedi ysgrifennu arno, galar, a griddfan, a gwae.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help