Marc 5 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 31. —1 Crist yn gwaredu y dyn yr oedd ynddo leng o gythreuliaid: 13 hwythau yn myned i’r moch. 25 Y mae efe yn iacháu y wraig o’r diferlif gwaed, 35 ac yn cyfodi merch Jairus o farw i fyw.

1A Mat 8:28; Luc 8:26hwy a ddaethant i’r tu hwnt i’r môr, i wlad y Gadareniaid.

2Ac ar ei ddyfodiad ef allan o’r llong, yn y man cyfarfu ag ef o blith y beddau, ddyn ag ysbryd aflan ynddo,

3Yr hwn oedd â’i drigfan ymhlith y beddau; ac ni allai neb, ie, â chadwynau, ei rwymo ef:

4Oherwydd ei rwymo ef yn fynych â llyffetheiriau, ac â chadwynau, a darnio ohono’r cadwynau, a dryllio’r llyffetheiriau: ac ni allai neb ei ddofi ef.

5Ac yn wastad nos a dydd yr oedd efe yn llefain yn y mynyddoedd, ac ymhlith y beddau, ac yn ei dorri ei hun â cherrig.

6Ond pan ganfu efe yr Iesu o hirbell, efe a redodd, ac a’i haddolodd ef;

7A chan weiddi â llef uchel, efe a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, Iesu Mab y Duw goruchaf? yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenech fi.

8(Canys dywedasai wrtho, Ysbryd aflan, dos allan o’r dyn.)

9Ac efe a ofynnodd iddo, Beth yw dy enw? Yntau a atebodd, gan ddywedyd, Lleng yw fy enw; am fod llawer ohonom.

10Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, na yrrai efe hwynt allan o’r wlad.

11Ond yr oedd yno ar y mynyddoedd genfaint fawr o foch yn pori.

12A’r holl gythreuliaid a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Danfon ni i’r moch, fel y gallom fyned i mewn iddynt.

13Ac yn y man y caniataodd yr Iesu iddynt. A’r ysbrydion aflan, wedi myned allan, a aethant i mewn i’r moch: a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i’r môr (ac ynghylch dwy fil oeddynt) ac a’u boddwyd yn y môr.

14A’r rhai a borthent y moch a ffoesant, ac a fynegasant y peth yn y ddinas, ac yn y wlad: a hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid.

15A hwy a ddaethant at yr Iesu, ac a welsant y cythreulig, yr hwn y buasai’r lleng ynddo, yn eistedd, ac yn ei ddillad, ac yn ei iawn bwyll; ac a ofnasant.

16A’r rhai a welsant a fynegasant iddynt, pa fodd y buasai i’r cythreulig, ac am y moch.

17A Mat 8:34; Act 16:39dechreuasant ddymuno arno ef fyned ymaith o’u goror hwynt.

18Ac efe yn myned i’r llong, Luc 8:38yr hwn y buasai’r cythraul ynddo a ddymunodd arno gael bod gydag ef.

19Ond yr Iesu ni adawodd iddo; eithr dywedodd wrtho, Dos i’th dŷ at yr eiddot, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot, ac iddo drugarhau wrthyt.

20Ac efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis, pa bethau eu maint a wnaethai yr Iesu iddo: a phawb a ryfeddasant.

21 Mat 9:1; Luc 8:40 Ac wedi i’r Iesu drachefn fyned mewn llong i’r lan arall, ymgasglodd tyrfa fawr ato: ac yr oedd efe wrth y môr.

22Mat 9:18; Luc 8:41Ac wele, un o benaethiaid y synagog a ddaeth, a’i enw Jairus: a phan ei gwelodd, efe a syrthiodd wrth ei draed ef;

23Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Y mae fy merch fechan ar dranc: atolwg i ti ddyfod, a dodi dy ddwylo arni, fel yr iachaer hi; a byw fydd.

24A’r Iesu a aeth gydag ef: a thyrfa fawr a’i canlynodd ef, ac a’i gwasgasant ef.

25A rhyw wraig, Lef 15:25yr hon a fuasai mewn diferlif gwaed ddeuddeng mlynedd,

26Ac a oddefasai lawer gan laweroedd o feddygon, ac a dreuliasai gymaint ag oedd ar ei helw, ac ni chawsai ddim llesâd, eithr yn hytrach myned waethwaeth,

27Pan glybu hi am yr Iesu, hi a ddaeth yn y dyrfa o’r tu ôl, ac a gyffyrddodd â’i wisg ef;

28Canys hi a ddywedasai, Os cyffyrddaf â’i ddillad ef, iach fyddaf.

29Ac yn ebrwydd y sychodd ffynhonnell ei gwaed hi: a hi a wybu yn ei chorff ddarfod ei hiacháu o’r pla.

30Ac yn y fan yr Iesu, gan wybod ynddo’i hun fyned Luc 6:19rhinwedd allan ohono, a drodd yn y dyrfa, ac a ddywedodd, Pwy a gyffyrddodd â’m dillad?

31A’i ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Ti a weli’r dyrfa yn dy wasgu, ac a ddywedi di, Pwy a’m cyffyrddodd?

32Ac yntau a edrychodd o amgylch, i weled yr hon a wnaethai hyn.

33Ond y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod beth a wnaethid ynddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd.

34Ac efe a ddywedodd wrthi, Ha ferch, Pen 10:52dy ffydd a’th iachaodd: dos mewn heddwch, a bydd iach o’th bla.

35Ac efe eto yn llefaru, daeth rhai o dŷ pennaeth y synagog, gan ddywedyd, Bu farw dy ferch: i ba beth eto yr aflonyddi’r Athro?

36A’r Iesu, yn ebrwydd wedi clywed y gair a ddywedasid, a ddywedodd wrth bennaeth y synagog, Nac ofna; cred yn unig.

37Ac ni adawodd efe neb i’w ddilyn, ond Pedr, ac Iago, ac Ioan brawd Iago.

38Ac efe a ddaeth i dŷ pennaeth y synagog, ac a ganfu’r cynnwrf, a’r rhai oedd yn wylo ac yn ochain llawer.

39Ac wedi iddo fyned i mewn, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnewch gynnwrf, ac yr wylwch? ni bu farw’r eneth, eithr Ioan 11:11cysgu y mae.

40A hwy a’i gwatwarasant ef. Ond efe, gwedi bwrw pawb allan, a gymerth dad yr eneth a’i mam, a’r rhai oedd gydag ef, ac a aeth i mewn lle yr oedd yr eneth yn gorwedd.

41Ac wedi ymaflyd yn llaw’r eneth, efe a ddywedodd wrthi, Talitha, cwmi; yr hyn o’i gyfieithu yw, Yr eneth, yr wyf yn dywedyd wrthyt, cyfod.

42Ac yn y fan y cyfododd yr eneth, ac a rodiodd: canys deuddeng mlwydd oed ydoedd hi. A synnu a wnaeth arnynt â syndod mawr.

43Ac Mat 8:4; 9:30; 12:16; 17:9; Luc 5:14efe a orchmynnodd iddynt yn gaeth, na châi neb wybod hyn; ac a ddywedodd am roddi peth iddi i’w fwyta.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help