1A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
2Proffwyda, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Udwch, Och o’r diwrnod!
3Canys agos dydd, ie, agos dydd yr Arglwydd, dydd cymylog; amser y cenhedloedd fydd efe.
4A’r cleddyf a ddaw ar yr Aifft, a bydd gofid blin yn Ethiopia, pan syrthio yr archolledig yn yr Aifft, a chymryd ohonynt ei lliaws hi, a dinistrio ei seiliau.
5Ethiopia, a Libya, a Lydia, Soan, a gwnaf farnedigaethau yn No.
15A thywalltaf fy llid ar Sin, cryfder yr Aifft; ac a dorraf ymaith liaws No.
16A mi a roddaf dân yn yr Aifft; gan ofidio y gofidia Sin, a No a rwygir, a bydd ar Noff gyfyngderau beunydd.
17Gwŷr ieuainc Afen a Phibeseth a syrthiant gan y cleddyf; ac i gaethiwed yr ânt hwy.
18Ac ar Tehaffnehes y tywylla y diwrnod, pan dorrwyf yno ieuau yr Aifft: a balchder ei chryfder a dderfydd ynddi: cwmwl a’i cuddia hi, a’i merched a ânt i gaethiwed.
19Felly y gwnaf farnedigaethau yn yr Aifft; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
20Ac yn y mis cyntaf o’r unfed flwyddyn ar ddeg, ar y seithfed dydd o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
21Ha fab dyn, torrais fraich Pharo brenin yr Aifft; ac wele, Jer 46:11nis rhwymir i roddi meddyginiaethau wrtho, i osod rhwymyn i rwymo, i’w gryfhau i ddal y cleddyf.
22Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a mi a dorraf ei freichiau ef, y cryf, a’r hwn oedd ddrylliedig; ac a wnaf i’r cleddyf syrthio o’i law ef.
23A mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac a’u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd.
24A mi a gadarnhaf freichiau brenin Babilon, ac a roddaf fy nghleddyf yn ei law ef: ond mi a dorraf freichiau Pharo, ac efe a ochain o’i flaen ef ag ocheneidiau un archolledig.
25Ond mi a gadarnhaf freichiau brenin Babilon, a breichiau Pharo a syrthiant; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd, wedi i mi roddi fy nghleddyf yn llaw brenin Babilon, ac iddo yntau ei estyn ef ar wlad yr Aifft.
26A mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac a’u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.