Jona 4 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Jona yn anfodlon â thrugaredd Duw, 4 ac yn cael ei geryddu dan rith pren cicaion.

1A bu ddrwg iawn gan Jona hyn, ac efe a ddigiodd yn fawr.

2Ac efe a weddïodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Atolwg i ti, Arglwydd, oni ddywedais i hyn pan oeddwn eto yn fy ngwlad? am hynny yr achubais flaen Ai da yw y gwaith ymddigio ohonot?

5A Jona a aeth allan o’r ddinas, ac a eisteddodd o’r tu dwyrain i’r ddinas, ac a wnaeth yno gaban iddo ei hun, ac a eisteddodd dano yn y cysgod, hyd oni welai beth a fyddai yn y ddinas.

6A’r Arglwydd Dduw a ddarparodd gicaion, ac a wnaeth iddo dyfu dros Jona, i fod yn gysgod uwch ei ben ef, i’w waredu o’i ofid: a bu Jona lawen iawn am y cicaion.

7A’r Arglwydd a baratôdd bryf ar godiad y wawr drannoeth, ac efe a drawodd y cicaion, ac yntau a wywodd.

8A phan gododd haul, bu i Dduw ddarparu poethwynt y dwyrain; a’r haul a drawodd ar ben Jona, fel y llewygodd, ac y deisyfodd farw o’i einioes, ac a ddywedodd, Ai da yw y gwaith ymddigio ohonot am y cicaion? Ac efe a ddywedodd, Da yw i mi ymddigio hyd angau.

10A’r Arglwydd a ddywedodd, Ti a dosturiaist wrth y cicaion ni lafuriaist wrtho, ac ni pheraist iddo dyfu: mewn noswaith y bu, ac mewn noswaith y darfu:

11Ac oni arbedwn i Ninefe y ddinas fawr, yr hon y mae ynddi fwy na deuddeng myrdd o ddynion, Deut 1:39y rhai ni wyddant ragor rhwng eu llaw ddeau a’u llaw aswy, ac anifeiliaid lawer?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help