Jeremeia 28 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Hananeia yn gau‐broffwydo y dychwelai y llestri yn eu hôl, a Jechoneia hefyd. 5 Jeremeia yn dymuno bod hynny yn wir, ac yn dangos mai y diwedd a ddengys pa rai sydd wir broffwydi. 10 Hananeia yn torri iau Jeremeia. 12 Jeremeia yn darogan iau haearn, 15 a marwolaeth Hananeia.

1Ac yn y flwyddyn honno, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn, ar y pumed mis, y llefarodd Hananeia mab Asur y proffwyd, yr hwn oedd o Gibeon, wrthyf fi yn nhŷ yr Arglwydd, yng ngŵydd yr offeiriaid a’r holl bobl, gan ddywedyd,

2Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, Myfi a dorrais iau brenin Babilon.

3O fewn ysbaid dwy flynedd myfi a ddygaf drachefn i’r lle hwn holl lestri tŷ yr Arglwydd, y rhai a gymerth Nebuchodonosor brenin Babilon ymaith o’r lle hwn, ac a’u dug i Babilon;

4Ac mi a ddygaf Jechoneia mab Jehoiacim brenin Jwda, a holl gaethglud Jwda, y rhai a aethant i Babilon, drachefn i’r lle hwn, medd yr Arglwydd; canys mi a dorraf iau brenin Babilon.

5Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd, yng ngŵydd yr offeiriaid, ac yng ngŵydd yr holl bobl, y rhai oedd yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd;

6Ie, y proffwyd Jeremeia a ddywedodd, Amen, poed felly y gwnelo yr Arglwydd: yr Arglwydd a gyflawno dy eiriau di, y rhai a broffwydaist, am ddwyn drachefn lestri tŷ yr Arglwydd, a’r holl gaethglud, o Babilon i’r lle hwn.

7Eto, gwrando di yr awr hon y gair yma, yr hwn a lefaraf fi lle y clywech di a lle clywo yr holl bobl;

8Y proffwydi y rhai a fuant o’m blaen i, ac o’th flaen dithau erioed, a broffwydasant yn erbyn gwledydd lawer, ac yn erbyn teyrnasoedd mawrion, am ryfel, ac am ddrygfyd, ac am haint.

9gwrthryfel yn erbyn yr Arglwydd.

17Felly Hananeia y proffwyd a fu farw y flwyddyn honno, yn y seithfed mis.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help