Jeremeia 34 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Jeremeia yn proffwydo caethiwed Sedeceia, a’r ddinas. 8 Y tywysogion a’r bobl, wedi iddynt ryddhau eu caeth‐weision, yng groes i gyfamod Duw, yn eu cymryd hwy drachefn. 12 Jeremeia, am eu hanufudd‐dod, yn eu rhoddi hwy a Sedeceia yn nwylaw eu gelynion.

1Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, werthwyd i ti, ac a’th wasanaethodd chwe blynedd; gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt: ond ni wrandawodd eich tadau arnaf, ac ni ogwyddasant eu clustiau.

15A chwithau a gymerasech edifeirwch heddiw, ac a wnaethech yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg, am gyhoeddi rhyddid bob un i’w gymydog; a chwi a wnaethech gyfamod yn fy ngŵydd i, yn y tŷ y gelwir fy enw arno:

16Ond chwi a ddychwelasoch, ac a halogasoch fy enw, ac a ddygasoch yn eu hôl bob un ei wasanaethwr, a phob un ei wasanaethferch, y rhai a ollyngasech yn rhyddion wrth eu hewyllys eu hun: caethiwasoch hwynt hefyd i fod yn weision ac yn forynion i chwi.

17Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ni wrandawsoch arnaf fi, gan gyhoeddi rhyddid bob un i’w frawd, a phob un i’w gymydog: wele fi yn cyhoeddi i’ch erbyn, medd yr Arglwydd, ryddid i’r cleddyf, i’r haint, ac i’r newyn, ac mi a wnaf eich Deut 28:64; Pen 29:18symud chwi i holl deyrnasoedd y ddaear.

18A mi a roddaf y dynion a droseddodd fy nghyfamod, y rhai ni chwblhasant eiriau y cyfamod a wnaethant ger fy mron, wedi iddynt fyned rhwng rhannau y llo, Edrych Gen 15:10, 17yr hwn a holltasent yn ddau;

19Tywysogion Jwda, a thywysogion Jerwsalem, yr ystafellyddion, a’r offeiriaid, a holl bobl y wlad y rhai a aethant rhwng rhannau y llo;

20Ie, mi a’u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion, ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: Pen 33; 16:4a’u celain fydd yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear.

21A mi a roddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i dywysogion, i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes, ac yn llaw llu brenin Babilon, Edrych pen 37:5, 11y rhai a aethant i fyny oddi wrthych.

22Wele, mi a orchmynnaf, medd yr Arglwydd, ac a wnaf iddynt droi yn ôl at y ddinas hon, a hwy a ryfelant yn ei herbyn hi, ac a’i goresgynnant hi, ac a’i llosgant hi â thân: ac mi a wnaf ddinasoedd Jwda yn anghyfannedd heb breswylydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help