1A meibion y proffwydi a ddywedasant wrth Eliseus, Wele yn awr, y lle yr hwn yr ydym ni yn trigo ynddo ger dy fron di, sydd ry gyfyng i ni.
2Awn yn awr hyd yr Iorddonen, fel y cymerom oddi yno bawb ei drawst, ac y gwnelom i ni yno le i gyfanheddu ynddo. Dywedodd yntau, Ewch.
3Ac un a ddywedodd, Bydd fodlon, atolwg, a thyred gyda’th weision. Dywedodd yntau, Mi a ddeuaf.
4Felly efe a aeth gyda hwynt. A hwy a ddaethant at yr Iorddonen, ac a dorasant goed.
5A phan oedd un yn bwrw i lawr drawst, ei fwyell ef a syrthiodd i’r dwfr. Ac efe a waeddodd, ac a ddywedodd, Och fi, fy meistr! canys benthyg oedd.
6A gŵr Duw a ddywedodd, Pa le y syrthiodd? Yntau a ddangosodd iddo y fan. Ac mawr: a hwy a ddaethant liw nos, ac a amgylchynasant y ddinas.
15A phan gododd gweinidog gŵr Duw yn fore, a myned allan, wele lu yn amgylchynu y ddinas, â meirch ac â cherbydau. A’i was a ddywedodd wrtho ef, Aha, fy meistr! pa fodd y gwnawn?
16Ac efe a ddywedodd, Nac ofna: canys amlach yw Oni achub yr Arglwydd dydi, pa fodd yr achubaf fi di? Ai o’r ysgubor, neu o’r gwinwryf?
28A’r brenin a ddywedodd wrthi hi, Beth a ddarfu i ti? Hithau a ddywedodd, Y wraig hon a ddywedodd wrthyf, Dyro dy fab, fel y bwytaom ef heddiw; a’m mab innau a fwytawn ni yfory.
29Felly Deut 28:53, 57ni a ferwasom fy mab i, ac a’i bwytasom ef: a mi a ddywedais wrthi hithau y diwrnod arall, Dyro dithau dy fab, fel y bwytaom ef: ond hi a guddiodd ei mab.
30A phan glybu y brenin eiriau y wraig, efe a rwygodd ei ddillad, ac a aeth heibio ar y mur; a’r bobl a edrychodd, ac wele, sachliain oedd am ei gnawd ef oddi fewn.
31Ac efe a ddywedodd, Ruth 1:17; 1 Bren 19:2Fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego, os saif pen Eliseus mab Saffat arno ef heddiw.
32Ond Eliseus oedd yn eistedd yn ei dŷ, a’r henuriaid yn eistedd gydag ef. A’r brenin a anfonodd ŵr o’i flaen: ond cyn dyfod y gennad ato ef, efe a ddywedodd wrth yr henuriaid, Luc 13:23A welwch chwi fel yr anfonodd mab y llofrudd hwn i gymryd ymaith fy mhen i? Edrychwch pan ddêl y gennad i mewn, caewch y drws, a deliwch ef wrth y drws: onid yw trwst traed ei arglwydd ar ei ôl ef?
33Ac efe eto yn ymddiddan â hwynt, wele y gennad yn dyfod i mewn ato ef: ac efe a ddywedodd, Wele, y drwg hyn sydd oddi wrth yr Arglwydd; paham y disgwyliaf wrth yr Arglwydd mwy?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.