Salm 138 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

SALM 1381 Dafydd yn moliannu Duw am wirionedd ei air: 4 yn proffwydo y bydd i frenhinoedd y ddaear foliannu Duw: 7 yn dangos ei ymddiried yn Nuw.Salm Dafydd.

1Clodforaf di â’m holl galon: Salm 119:46yng ngŵydd y duwiau y canaf i ti.

2 Salm 28:2 Ymgrymaf 1 Bren 8:29, 30tua’th deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a’th wirionedd: oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll.

3Y dydd y llefais, y’m gwrandewaist; ac a’m cadarnheaist â nerth yn fy enaid.

4 Salm 102:15, 22 Holl frenhinoedd y ddaear a’th glodforant, O Arglwydd, pan glywant eiriau dy enau.

5Canant hefyd am ffyrdd yr Arglwydd: canys mawr yw gogoniant yr Arglwydd.

6 Salm 113:5, 6; Esa 57:15 Er bod yr Arglwydd yn uchel, eto Iago 4:6; 1 Pedr 5:5efe a edrych ar yr isel: ond y balch a edwyn efe o hirbell.

7Pe rhodiwn yng nghanol cyfyngder, ti a’m bywheit: estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a’th ddeheulaw a’m hachubai.

8 Salm 57:2; Phil 1:6 Yr Arglwydd a gyflawna â mi: dy drugaredd, Arglwydd, sydd yn dragywydd: Edrych Job 10:8nac esgeulusa waith dy ddwylo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help