Job 10 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Job yn cymryd rhyddid i achwyn, ac yn edliw â Duw o achos ei gystudd, 18 yn cwyno ei fod yn fyw, ac yn erfyn cael ychydig esmwythdra cyn ei farw.

1Y mae yn blino ar fy einioes: arnaf fy hun y gadawaf fy nghwyn; ac yn chwerwder fy enaid y llefaraf.

2Dywedaf wrth Dduw, Na farn fi yn euog; gwna i mi wybod paham yr ymrysoni â mi.

3Ai da i ti orthrymu, fel y diystyrit waith dy ddwylo, ac y llewyrchit gyngor yr annuwiol?

4Ai llygaid o gnawd sydd i ti? ai Ti a wyddost nad ydwyf annuwiol; ac nid oes a waredo o’th law di.

8Dy ddwylo di a’m gweithiasant, ac a’m cydluniasant o amgylch; eto fy nifetha yr wyt.

9Cofia, atolwg, mai diffynnaist i ag esgyrn ac â gïau.

12Bywyd a thrugaredd a ddarperaist i mi, a’th ymgeledd a gadwodd fy ysbryd.

13A’r pethau hyn a guddiaist ti yn dy galon: gwn fod hyn gyda thi.

14Os pechaf, ti a’m gwyli, ac ni’m glanhei oddi wrth fy anwiredd.

15Os ydwyf annuwiol, gwae fi; ac Pen 9:20

os cyfiawn ydwyf, er hynny ni chodaf fy mhen: yr ydwyf yn llawn o warthrudd, am hynny gwêl fy nghystudd;

16Canys cynyddu y mae: Esa 38:13; Galar 3:10fy hela yr ydwyt fel llew creulon: er hynny drachefn ti a wnei yn rhyfedd â mi.

17Yr wyt ti yn adnewyddu dy dystion i’m herbyn, ac yn amlhau dy ddigofaint wrthyf; cyfnewidiau a rhyfel sydd i’m herbyn.

18Pen 3:11Paham gan hynny y dygaist fi allan o’r groth? O na buaswn farw, ac na’m gwelsai llygad!

19Mi a fuaswn megis pe na buaswn, a myfi a ddygasid o’r bru i’r bedd.

20Edrych pen 7:16; 8:9Onid ychydig yw fy nyddiau? Salm 39:13paid gan hynny, Pen 7:16, 19gad im lonydd, fel yr ymgysurwyf ychydig;

21Cyn myned ohonof lle ni ddychwelwyf, i dir tywyllwch a chysgod angau;

22Tir tywyllwch fel y fagddu, a chysgod angau, a heb drefn; lle y mae y goleuni fel y tywyllwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help