1A phan ddaeth y bore, cydymgynghorodd gwerth gwaed ydyw.
7Ac wedi iddynt gydymgynghori, hwy a brynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa dieithriaid.
8Am hynny y galwyd y maes hwnnw, pris y prisiedig, yr hwn a brynasant gan feibion Israel;
10Ac a’u rhoesant hwy am faes y crochenydd, megis y gosododd yr Arglwydd i mi.)
11A’r Iesu a safodd gerbron y rhaglaw: a’r rhaglaw a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? A’r Iesu a ddywedodd wrtho, i’r dadleudy, ac a gynullasant ato yr holl fyddin.
28A hwy a’i diosgasant ef, ac ddaear hyd y nawfed awr.
46Ac ynghylch y nawfed awr Heb 5:7y llefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eli, Eli, lama sabachthani? hynny yw, Salm 22:1Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist?
47A rhai o’r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw am Eleias.
48Ac yn y fan un ohonynt a redodd, ac a gymerth ysbwng, Salm 69:21; Marc 15:36; Luc 23:36; Ioan 19:29ac a’i llanwodd o finegr, ac a’i rhoddodd ar gorsen, ac a’i diododd ef.
49A’r lleill a ddywedasant, Paid, edrychwn a ddaw Eleias i’w waredu ef.
50 Luc 23:46 A’r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ymadawodd â’r ysbryd.
51Ac wele, Exod 26:31; 2 Cron 3:14; Marc 15:38llen y deml a rwygwyd yn ddau oddi fyny hyd i waered: a’r ddaear a grynodd, a’r meini a holltwyd:
52A’r beddau a agorwyd; a llawer o gyrff y saint a hunasent a gyfodasant,
53Ac a ddaethant allan o’r beddau ar ôl ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i’r ddinas sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer.
54Marc 15:39; Luc 23:47Ond y canwriad, a’r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaeargryn, a’r pethau a wnaethid, a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydoedd hwn.
55Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, Luc 8:2, 3y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo ef:
56Marc 15:40Ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago a Joses, a mam meibion Sebedeus.
57 Marc 15:42; Luc 23:50; Ioan 19:38 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth gŵr goludog o Arimathea, a’i enw Joseff, yr hwn a fuasai yntau yn ddisgybl i’r Iesu:
58Hwn a aeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu. Yna y gorchmynnodd Peilat roddi’r corff.
59A Joseff wedi cymryd y corff, a’i hamdôdd â lliain glân,
60Ac Esa 53:9a’i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorasai efe yn y graig; ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymaith.
61Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a’r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â’r bedd.
62A thrannoeth, yr hwn sydd ar ôl y darpar‐ŵyl, yr ymgynullodd yr archoffeiriaid a’r Phariseaid at Peilat,
63Gan ddywedyd, Arglwydd, y mae yn gof gennym ddywedyd o’r twyllwr hwnnw, ac efe eto yn fyw, Pen 16:21; 17:23; 20:19; Marc 8:31; 10:34; Luc 9:22; 18:33; 24:6Wedi tridiau y cyfodaf.
64Gorchymyn gan hynny gadw’r bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd; rhag dyfod ei ddisgyblion o hyd nos, a’i ladrata ef, a dywedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd o feirw: a bydd yr amryfusedd diwethaf yn waeth na’r cyntaf.
65A dywedodd Peilat wrthynt, Y mae gennych wyliadwriaeth; ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medroch.
66A hwy a aethant, ac a wnaethant y bedd yn ddiogel, ac a seliasant y maen, gyda’r wyliadwriaeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.