Eseia 54 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Y proffwyd, er mwyn cysuro y Cenhedloedd, yn proffwydo helaethrwydd yr eglwys; 4 eu diogelwch hwy, 6 a’u sicr ymwared allan o gystudd, 11 a’u hadeilad deg, 15 a’u diogel gadwedigaeth.

1 Seff 3:14; Gal 4:27 Cân, di amhlantadwy nid esgorodd; bloeddia ganu, a gorfoledda, yr hon nid esgorodd: oherwydd 1 Sam 2:5amlach meibion yr hon a adawyd, na’r hon y mae gŵr iddi, medd yr Arglwydd.

2Pen 49:19, 20Helaetha le dy babell, ac estynnant gortynnau dy breswylfeydd: nac atal, estyn dy raffau, a sicrha dy hoelion.

3Canys ti a dorri allan ar y llaw ddeau ac ar y llaw aswy; a’th had a etifedda y Cenhedloedd, a dinasoedd anrheithiedig a wnânt yn gyfanheddol.

4Nac ofna; canys ni’th gywilyddir: ac na’th waradwydder, am na’th warthruddir; canys ti a anghofi waradwydd dy ieuenctid, a gwarthrudd dy weddwdod ni chofi mwyach.

5Canys dy briod yw yr hwn a’th wnaeth; Luc 1:32 Arglwydd y lluoedd yw ei enw: dy Waredydd hefyd, Sanct Israel, Duw yr holl ddaear y gelwir ef.

6Canys Pen 62:4fel gwraig wrthodedig, a chystuddiedig o ysbryd, y’th alwodd yr Arglwydd, a gwraig ieuenctid, pan oeddit wrthodedig, medd dy Dduw.

7Salm 30:5; Pen 26:20; 2 Cor 4:17Dros ennyd fechan y’th adewais; ond â mawr drugareddau y’th gasglaf.

8Mewn ychydig soriant y cuddiais fy wyneb oddi wrthyt ennyd awr; ond â thrugaredd dragwyddol y trugarhaf wrthyt, medd yr Arglwydd dy Waredydd.

9Canys Gen 8:21; 9:11; Edrych Jer 31:35, 36 fel dyfroedd Noa y mae hyn i mi: canys megis y tyngais nad elai dyfroedd Noa mwy dros y ddaear; felly y tyngais na ddigiwn wrthyt, ac na’th geryddwn.

10Canys Salm 46:2; Mat 5:18y mynyddoedd a giliant, a’r bryniau a symudant: eithr fy nhrugaredd ni chilia oddi wrthyt, a chyfamod fy hedd ni syfl, medd yr Arglwydd sydd yn trugarhau wrthyt.

11Y druan, helbulus gan dymestl, y ddigysur, wele, 1 Cron 29:2; Dat 21:18, &cmi a osodaf dy gerrig di â charbuncl, ac a’th sylfaenaf â meini saffir.

12Gwnaf hefyd dy ffenestri o risial, a’th byrth o feini disglair, a’th holl derfynau o gerrig dymunol.

13Pen 11:9; Jer 31:34; Ioan 6:45; 1 Cor 2:10; 1 Thess 4:9; 1 Ioan 2:20Dy holl feibion hefyd fyddant wedi eu dysgu gan yr Arglwydd; a mawr fydd heddwch dy feibion.

14Mewn cyfiawnder y’th sicrheir: byddi bell oddi wrth orthrymder, canys nid ofni; ac oddi wrth ddychryn, canys ni nesâ atat.

15Wele, gan ymgasglu hwy a ymgasglant, ond nid ohonof fi: pwy bynnag ohonot ti a ymgasglo i’th erbyn, efe a syrth.

16Wele, myfi a greais y gof, yr hwn a chwyth y marwor yn tân, ac a ddefnyddia arf i’w waith; myfi hefyd a greais y dinistrydd i ddistrywio.

17Ni lwydda un offeryn a lunier i’th erbyn; a thi a wnei yn euog bob tafod a gyfodo i’th erbyn mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr Arglwydd, a’u cyfiawnder hwy sydd oddi wrthyf fi, medd yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help