Esther 5 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Esther, wrth anturio ar ffafr y brenin, yn cael estyn ati y deyrn‐wialen aur, ac yn gwahodd y brenin a Haman i’r wledd. 6 A chwedi cael cysur gan y brenin am y peth yr oedd hi yn ei geisio, yn eu gwahodd hwy drannoeth i wledd arall. 9 Haman yn falch o’i ddyrchafiad, yn ddrwg ganddo fod Mordecai yn ei ddiystyru ef, 14 a thrwy gyngor Seres yn gwneuthur crocbren iddo ef.

1Ac alwodd am ei garedigion, a Seres ei wraig.

11A Haman a adroddodd iddynt ogoniant ei gyfoeth, ac amldra ei feibion, a’r hyn oll y mawrhasai y brenin ef ynddynt, ac fel y dyrchafasai y brenin ef goruwch y tywysogion a gweision y brenin.

12A dywedodd Haman hefyd, Ni wahoddodd Esther y frenhines neb gyda’r brenin i’r wledd a wnaethai hi, ond myfi; ac yfory hefyd y’m gwahoddwyd ati hi gyda’r brenin.

13Ond nid yw hyn oll yn llesáu i mi, tra fyddwyf fi yn gweled Mordecai yr Iddew yn eistedd ym mhorth y brenin.

14Yna y dywedodd Seres ei wraig, a’i holl garedigion wrtho, Paratoer pren o ddeg cufydd a deugain o uchder, a’r bore dywed wrth y brenin am grogi Mordecai arno; yna dos gyda’r brenin i’r wledd yn llawen. A da oedd y peth gerbron Haman, am hynny efe a baratôdd Pen 7:10y crocbren.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help