1Wedi’r pethau hyn yr ordeiniodd yr Arglwydd ddeg a thrigain eraill hefyd, ac a’u danfonodd hwynt bob yn ddau o flaen ei wyneb i bob dinas a man lle yr oedd efe ar fedr dyfod.
2Am hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y i chwi: er hynny gwybyddwch hyn, fod teyrnas Dduw wedi nesáu atoch.
12Eithr dywedaf wrthych, mai esmwythach fydd i Sodom yn y dydd hwnnw, nag i’r ddinas honno.
13y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd yn eich plith chwi, hwy a edifarhasent er ys talm, gan eistedd mewn sachliain a lludw.
14Eithr esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn y farn, nag i chwi.
15A thithau, Capernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern.
16y gwelid yn dda yn dy olwg di.
22Mat 28:18; Ioan 3:35; 17:2Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac Ioan 1:18; 6:44, 46ni ŵyr neb pwy yw’r Mab, ond y Tad; na phwy yw’r Tad, ond y Mab, a’r neb y mynno’r Mab ei ddatguddio iddo.
23Ac efe a drodd at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd o’r neilltu, Mat 13:16Gwyn fyd y llygaid sydd yn gweled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled:
24Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, 1 Pedr 1:10ewyllysio o lawer o broffwydi a brenhinoedd weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac nis gwelsant; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.
25Ac wele, rhyw gyfreithiwr a gododd, gan ei demtio ef, a dywedyd, Mat 19:16; 22:35Athro, pa beth a wnaf i gael etifeddu bywyd tragwyddol?
26Yntau a ddywedodd wrtho, Pa beth sydd ysgrifenedig yn y gyfraith? pa fodd y darlleni?
27Ac efe gan ateb a ddywedodd, Deut 6:5Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth, ac â’th holl feddwl; Lef 19:18a’th gymydog fel ti dy hun.
28Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a atebaist yn uniawn: gwna hyn, a Lef 18:5; Esec 20:11, 13, 21byw fyddi.
29Eithr efe, yn ewyllysio ei gyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymydog?
30A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, Rhyw ddyn oedd yn myned i waered o Jerwsalem i Jericho, ac a syrthiodd ymysg lladron; y rhai wedi ei ddiosg ef, a’i archolli, a aethant ymaith, gan ei adael yn hanner marw.
31Ac ar ddamwain rhyw offeiriad a ddaeth i waered y ffordd honno: a phan ei gwelodd, Salm 38:11efe a aeth o’r tu arall heibio.
32A’r un ffunud Lefiad hefyd, wedi dyfod i’r fan, a’i weled ef, a aeth o’r tu arall heibio.
33Eithr rhyw Samariad, wrth ymdaith, a ddaeth ato ef: a phan ei gwelodd, a dosturiodd,
34Ac a aeth ato, ac a rwymodd ei archollion ef, gan dywallt ynddynt olew a gwin; ac a’i gosododd ef ar ei anifail ei hun, ac a’i dug ef i’r llety, ac a’i hamgeleddodd.
35A thrannoeth wrth fyned ymaith, efe a dynnodd allan ddwy geiniog, ac a’u rhoddes i’r lletywr, ac a ddywedodd wrtho, Cymer ofal drosto: a pha beth bynnag a dreuliech yn ychwaneg, pan ddelwyf drachefn, mi a’i talaf i ti.
36Pwy gan hynny o’r tri hyn, yr ydwyt ti yn tybied ei fod yn gymydog i’r hwn a syrthiasai ymhlith y lladron?
37Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd ag ef. A’r Iesu am hynny a ddywedodd wrtho, Dos, a gwna dithau yr un modd.
38A bu, a hwy yn ymdeithio, ddyfod ohono i ryw dref: a rhyw wraig, a’i henw Ioan 11:1; 12:2, 3Martha, a’i derbyniodd ef i’w thŷ.
39Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Mair, 1 Cor 7:32, &cyr hon hefyd Act 22:3a eisteddodd wrth draed yr Iesu, ac a wrandawodd ar ei ymadrodd ef.
40Ond Martha oedd drafferthus ynghylch llawer o wasanaeth: a chan sefyll gerllaw, hi a ddywedodd, Arglwydd, onid oes ofal gennyt am i’m chwaer fy ngadael i fy hun i wasanaethu? dywed wrthi gan hynny am fy helpio.
41A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Martha, Martha, gofalus a thrafferthus wyt ynghylch llawer o bethau:
42Eithr Salm 27:4un peth sydd angenrheidiol: a Mair a ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddi arni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.