Josua 13 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

2 Terfynau y wlad nis gorchfygwyd eto. 8 Etifeddiaeth y ddau lwyth a hanner. 14, 33 Yr Arglwydd a’i aberthau yw etifeddiaeth Lefi. 15 Terfynau etifeddiaeth Reuben. 22 Lladd Balaam. 24 Terfynau etifeddiaeth Gad, 29 a hanner llwyth Manasse.

1A phan ogof oedd yn ymyl y Sidoniaid, hyd Affec, hyd derfyn y dyffryn, a holl wastadedd Medeba, hyd Dibon:

10A holl ddinasoedd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, hyd ardal meibion Ammon;

11Gilead hefyd, a therfyn y Gesuriaid, y Maachathiaid hefyd, a holl fynydd Hermon, a holl Basan hyd Salcha;

12Holl frenhiniaeth Og yn Basan, yr hwn a deyrnasodd yn Astaroth, ac yn Edrei; efe a adawyd o y dyffryn, a’r holl wastadedd wrth Medeba;

17Hesbon a’i holl ddinasoedd, y rhai sydd yn y gwastadedd; Dibon, a Bamoth‐baal, a Beth‐baalmeon;

18Jahasa hefyd, a Cedemoth, a Meffaath;

19Ciriathaim hefyd, a Sibma, a Sarethsahar, ym mynydd‐dir y glyn;

20Beth‐peor hefyd, ac Deut 3:17Asdoth‐pisga, a Beth‐jesimoth,

21A holl ddinasoedd y gwastadedd, a holl frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon, Num 21:24yr hwn a ddarfuasai i Moses ei daro, Num 31:8gyda thywysogion Midian, Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, dugiaid Sehon, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad.

22 Num 22:5; 31:8 Balaam hefyd mab Beor, y dewin, a laddodd meibion Israel â’r cleddyf, ymhlith eu lladdedigion hwynt.

23A therfyn meibion Reuben oedd yr Iorddonen a’i goror. Dyma etifeddiaeth meibion Reuben, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a’u trefi.

24Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i lwyth Gad, sef i feibion Gad, trwy eu teuluoedd;

25A Jaser oedd derfyn iddynt hwy, a holl ddinasoedd Gilead, a hanner gwlad meibion Ammon, hyd Aroer, yr hon sydd o flaen Rabba;

26Ac o Hesbon hyd Ramath‐mispe, a Betonim; ac o Mahanaim hyd gyffinydd Debir;

27Ac yn y dyffryn, Beth‐aram, a Beth‐nimra, a Succoth, a Saffon, gweddill brenhiniaeth Sehon brenin Hesbon, yr Iorddonen a’i therfyn, hyd gwr môr Cinneroth, o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain.

28Dyma etifeddiaeth meibion Gad, yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, a’u trefydd.

29Moses hefyd a roddodd etifeddiaeth i hanner llwyth Manasse: a bu etifeddiaeth i hanner llwyth meibion Manasse, yn ôl eu teuluoedd:

30A’u terfyn hwynt oedd o Mahanaim, holl Basan, holl frenhiniaeth Og brenin Basan, a Num 32:41holl drefi Jair, y rhai sydd yn Basan, trigain dinas;

31A hanner Gilead, ac Astaroth, ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og yn Basan, a roddodd efe i feibion Machir mab Manasse, sef i hanner Num 32:39meibion Machir, yn ôl eu teuluoedd.

32Dyma y gwledydd a roddodd Moses i’w hetifeddu, yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen â Jericho, o du y dwyrain.

33Pen 18:7Ond i lwyth Lefi ni roddodd Moses etifeddiaeth: Arglwydd Dduw Israel yw eu hetifeddiaeth hwynt, Num 18:20; Deut 10:9; 18:1, 2fel y llefarodd efe wrthynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help