Jeremeia 45 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Baruch, yn ei anghysur, 4 yn cael ei ddysgu a’i gysuro gan Jeremeia.

1Y gair yr hwn a lefarodd Jeremeia y proffwyd wrth Baruch mab Nereia, Pen 36:1, 4pan ysgrifenasai efe y geiriau hyn o enau Jeremeia mewn llyfr, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, gan ddywedyd,

2Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, wrthyt ti, Baruch;

3Tydi a ddywedaist, Gwae fi yn awr! canys yr Arglwydd a chwanegodd dristwch ar fy ngofid; myfi a ddiffygiais yn fy ochain, ac nid wyf yn cael gorffwystra.

4Fel hyn y dywedi wrtho ef, Yr Arglwydd a ddywed fel hyn; Wele, myfi a ddistrywiaf yr hyn a adeiledais, a mi a ddiwreiddiaf yr hyn a blennais, nid amgen yr holl wlad hon.

5Ac a geisi di fawredd i ti dy hun? Na chais: canys wele, myfi a ddygaf ddrwg ar bob cnawd, medd yr Arglwydd: ond Pen 21:9; 39:18mi a roddaf i ti dy einioes yn ysglyfaeth ym mha le bynnag yr elych di.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help