1Ac yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Nebuchodonosor, y breuddwydiodd Nebuchodonosor freuddwydion, a thrallodwyd ei ysbryd ef, a’i gwsg a dorrodd oddi wrtho.
2A’r brenin a archodd alw am y dewiniaid, ac am yr astronomyddion, ac am yr hudolion, ac am y Caldeaid, i fynegi i’r brenin ei freuddwydion: a hwy a ddaethant ac a safasant gerbron y brenin.
3A’r brenin a ddywedodd wrthynt, Breuddwydiais freuddwyd, a thrallodwyd fy ysbryd am wybod y breuddwyd.
4Yna y Caldeaid a lefarasant wrth y brenin yn Syriaeg, oedi yr amser yr ydych chwi; canys gwelwch fyned y peth oddi wrthyf.
9Ond oni wnewch i mi wybod y breuddwyd, yr atebodd Daniel trwy gyngor a doethineb i Arioch, pen‐distain y brenin, yr hwn a aethai allan i ladd doethion Babilon:
15Efe a lefarodd ac a ddywedodd wrth Arioch, distain y brenin, Paham y mae y gyfraith yn myned ar y fath frys oddi wrth y brenin? Yna Arioch a fynegodd y peth i Daniel.
16Yna Daniel a aeth i mewn, ac a ymbiliodd â’r brenin am roddi iddo amser, ac y dangosai efe y dehongliad i’r brenin.
17Yna yr aeth Daniel i’w dŷ, ac a fynegodd y peth i’w gyfeillion, Hananeia, Misael, ac Asareia;
18Fel y ceisient drugareddau gan Dduw y nefoedd yn achos y dirgelwch hwn; fel na ddifethid Daniel a’i gyfeillion gyda’r rhan arall o ddoethion Babilon.
19Yna y datguddiwyd y dirgelwch i Daniel mewn gweledigaeth nos: yna Daniel a fendithiodd Dduw y nefoedd.
20Atebodd Daniel a dywedodd, yr hyn a ofynnodd y brenin.
24Oherwydd hyn yr aeth Daniel at Arioch, yr hwn a osodasai y brenin i ddifetha doethion Babilon: efe a aeth, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; Na ddifetha ddoethion Babilon; dwg fi o flaen y brenin, a mi a ddangosaf i’r brenin y dehongliad.
25Yna y dug Arioch Daniel o flaen y brenin ar frys, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; Cefais ŵr o blant caethiwed Jwda, yr hwn a fynega i’r brenin y dehongliad.
26Atebodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, yr hwn yr oedd ei enw Beltesassar, A elli di fynegi i mi y breuddwyd a welais, a’i ddehongliad?
27Atebodd Daniel o flaen y brenin, a dywedodd, Ni all doethion, astronomyddion, dewiniaid, na brudwyr, ddangos i’r brenin y dirgelwch y mae y brenin yn ei ofyn:
28Ond y mae Duw yn y nefoedd yn datguddio dirgeledigaethau, ac a fynegodd i’r brenin Nebuchodonosor beth a fydd yn y dyddiau diwethaf. Dy freuddwyd a gweledigaethau dy ben yn dy wely ydoedd hyn yma:
29Ti frenin, dy feddyliau a godasant yn dy ben ar dy wely, beth oedd i ddyfod ar ôl hyn: a’r hwn sydd yn datguddio dirgeledigaethau, a fynegodd i ti beth a fydd.
30Pen y ddelw hon ydoedd o aur da, ei dwyfron a’i breichiau o arian, ei bol a’i morddwydydd o bres,
33Ei choesau o haearn, ei thraed oedd beth ohonynt o haearn, a pheth ohonynt o bridd.
34Edrych yr oeddit hyd oni thorrwyd allan garreg, nid trwy waith dwylo, a hi a drawodd y ddelw ar ei thraed o haearn a phridd, ac a’u maluriodd hwynt.
35Yna yr haearn, y pridd, y pres, yr arian, a’r aur, a gydfaluriasant, ac oeddynt Hos 13:3fel mân us yn dyfod o’r lloriau dyrnu haf; a’r gwynt a’u dug hwynt ymaith, ac ni chaed lle iddynt; a’r garreg yr hon a drawodd y ddelw a aeth yn fynydd mawr, ac a lanwodd yr holl ddaear.
36Dyma y breuddwyd: dywedwn hefyd ei ddehongliad o flaen y brenin.
37Esra 7:12; Jer 27:6, 7; Esec 26:7; Hos 8:10Ti, frenin, wyt frenin brenhinoedd: canys Duw y nefoedd a roddodd i ti frenhiniaeth, gallu, a nerth, a gogoniant.
38A pha le bynnag y preswylia plant dynion, efe a roddes dan dy law fwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd, ac a’th osododd di yn arglwydd arnynt oll: ti yw y pen aur hwnnw.
39Ac ar dy ôl di y cyfyd brenhiniaeth arall is na thi, a thrydedd frenhiniaeth arall o bres, yr hon a lywodraetha ar yr holl ddaear.
40Bydd hefyd y bedwaredd frenhiniaeth yn gref fel haearn: canys yr haearn a ddryllia, ac a ddofa bob peth: ac fel haearn, yr hwn a ddryllia bob peth, y maluria ac y dryllia hi.
41A lle y gwelaist y traed a’r bysedd, peth ohonynt o bridd crochenydd, a pheth ohonynt o haearn, brenhiniaeth ranedig fydd; a bydd ynddi beth o gryfder haearn, oherwydd gweled ohonot haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd.
42Ac fel yr ydoedd bysedd y traed, peth o haearn, a pheth o bridd; felly y bydd y frenhiniaeth, o ran yn gref, ac o ran yn frau.
43A lle y gwelaist haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd, ymgymysgant â had dyn; ond ni lynant y naill wrth y llall, megis nad ymgymysga haearn â phridd.
44Ac yn nyddiau y brenhinoedd hyn, y cyfyd Duw y nefoedd frenhiniaeth, yr hon ni ddistrywir byth: a’r Pen 4:3, 34; 6:26; 7:14, 27; Micha 4:7; Luc 1:33frenhiniaeth ni adewir i bobl eraill; ond hi a faluria, ac a dreulia yr holl freniniaethau hyn, a hi a saif yn dragywydd.
45Lle y gwelaist dorri Esa 28:16carreg o’r mynydd, yr hon ni thorrwyd â llaw, a malurio ohoni yr haearn, y pres, y pridd, yr arian, a’r aur; hysbysodd y Duw mawr i’r brenin beth a fydd wedi hyn: felly y breuddwyd sydd wir, a’i ddehongliad yn ffyddlon.
46Yna y syrthiodd Nebuchodonosor y brenin ar ei wyneb, ac Edrych Act 10:25; 14:11, 13; 28:6a addolodd Daniel; gorchmynnodd hefyd am offrymu iddo offrwm ac arogl‐darth.
47Atebodd y brenin a dywedodd wrth Daniel, Mewn gwirionedd y gwn mai eich Duw chwi yw Duw y duwiau, ac Arglwydd y brenhinoedd, a datguddydd dirgeledigaethau, oherwydd medru ohonot ddatguddio y dirgelwch hwn.
48Yna y brenin a fawrygodd Daniel, ac a roddes iddo roddion mawrion lawer; ac efe a’i gwnaeth ef yn bennaeth ar holl dalaith Babilon, ac Pen 4:9yn ben i’r swyddogion ar holl ddoethion Babilon.
49Yna Daniel a ymbiliodd â’r brenin, ac yntau a osododd Sadrach, Mesach, ac Abednego ar lywodraeth talaith Babilon: ond Daniel a eisteddodd ym mhorth y brenin.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.