1A’r brenin Solomon oedd frenin ar holl Israel.
2A dyma y tywysogion oedd ganddo ef: Asareia mab Sadoc, yr offeiriad;
3Elihoreff ac Ahia, meibion Sisa, oedd ysgrifenyddion; deyrnged.
7A chan Solomon yr ydoedd deuddeg o swyddogion ar holl Israel, y rhai a baratoent luniaeth i’r brenin a’i dŷ: mis yn y flwyddyn yr oedd ar bob un ddarparu.
8Dyma eu henwau hwynt. Mab Hur, ym mynydd Effraim.
9Mab Decar ym Macas, ac yn Saalbim, a Bethsemes, ac Elon‐bethanan.
10Mab Hesed, yn Aruboth: iddo ef yr oedd Socho, a holl dir Heffer.
11Mab Abinadab oedd yn holl ardal Dor: Taffath merch Solomon oedd yn wraig iddo ef.
12Baana mab Ahilud oedd yn Taanach, a Megido, a Bethsean oll, yr hon sydd gerllaw Sartana, islaw Jesreel, o Bethsean hyd Abel‐mehola, hyd y tu hwnt i Jocneam.
13Mab Geber oedd yn Ramoth‐gilead: iddo ef yr oedd bwyd Solomon beunydd oedd ddeg corus ar hugain o beilliaid, a thrigain corus o flawd;
23Deg o ychen pasgedig, ac ugain o ychen porfadwy, a chant o ddefaid, heblaw ceirw, ac iyrchod, a buail, ac ednod breision.
24Canys efe oedd yn llywodraethu ar y tu yma i’r afon oll, o Tiffsa hyd Assa, ar yr holl frenhinoedd o’r tu yma i’r afon: ac yr oedd iddo ef heddwch o bob parth iddo o amgylch.
25Ac yr oedd Jwda ac Israel yn preswylio yn ddiogel, Micha 4:4; Sech 3:10bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, Barn 20:1o Dan hyd Beer‐seba, holl ddyddiau Solomon.
26Ac Pen 10:25, 26; 2 Cron 1:14; 9:25yr oedd gan Solomon ddeugain mil o bresebau Edrych Deut 17:16meirch i’w gerbydau, a deuddeng mil o wŷr meirch.
27A’r swyddogion hynny a baratoent luniaeth i Solomon y brenin, ac i bawb a ddelai i fwrdd y brenin Solomon, pob un yn ei fis: ni adawsant eisiau dim.
28Haidd hefyd a gwellt a ddygasant hwy i’r meirch, ac i’r cyflym gamelod, i’r fan lle y byddai y swyddogion, pob un ar ei ran.
29A Duw a roddodd ddoethineb i Solomon, a deall mawr iawn, a helaethdra calon, fel y tywod sydd ar fin y môr.
30A doethineb Solomon oedd fwy na doethineb holl feibion y dwyrain, ac na holl Edrych Act 7:22ddoethineb yr Aifft.
31Ie, doethach oedd efe nag un dyn; nag 1 Cron 2:6; Salm 88 titl; 89 titlEthan yr Esrahiad, na Heman, na Chalcol, na Darda, meibion Mahol: a’i enw ef oedd ymhlith yr holl genhedloedd oddi amgylch.
32Ac Preg 12:9efe a lefarodd dair mil o ddiarhebion: a’i ganiadau ef oedd fil a phump.
33Llefarodd hefyd am brennau, o’r cedrwydd sydd yn Libanus, hyd yr isop a dyf allan o’r pared: ac efe a lefarodd am anifeiliaid, ac am ehediaid, ac am ymlusgiaid, ac am bysgod.
34Ac o bob pobloedd y daethpwyd i wrando doethineb Solomon, oddi wrth holl frenhinoedd y ddaear, y rhai a glywsent am ei ddoethineb ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.