1Diau fod gwythen i’r arian; a lle i’r aur, lle y coethant ef.
2Haearn a dynnir allan o’r pridd; ac o’r garreg y toddir pres.
3Efe sydd yn gosod terfyn ar dywyllwch, ac yn chwilio allan bob perffeithrwydd; hyd yn oed meini tywyllwch a chysgod angau.
4Y mae yr afon yn torri allan oddi wrth y trigolion, y dyfroedd a anghofiwyd gan y troed: hwy a sychasant ac a aethant ymaith oddi wrth ddynion.
5Y ddaearen, ohoni y daw bara: trowyd megis tân oddi tani.
6Ei cherrig hi a fyddant le i saffir; a phriddellau aur sydd iddi.
7Y mae llwybr nid adnabu aderyn, ac ni chanfu llygad barcud:
8Yr hwn ni sathrodd cenawon llew; nid aeth hen lew trwyddo.
9Y mae efe yn estyn ei law at y gallestr: y mae efe yn dymchwelyd mynyddoedd o’r gwraidd.
10Y mae efe yn peri i afonydd dorri trwy y creigiau; ac y mae ei lygad ef yn gweled pob peth gwerthfawr.
11Y mae efe yn rhwymo yr afonydd rhag llifo, ac yn dwyn peth dirgel allan i oleuni.
12Ni cheir hi er aur pur; ac ni ellir pwyso ei gwerth hi o arian.
16Ni chyffelybir hi i’r aur o Offir; nac i’r onics gwerthfawr, nac i’r saffir.
17Nid aur a grisial a’i cystadla hi: na llestr o aur dilin fydd gydwerth iddi.
18Ni chofir y cwrel, na’r gabis: canys gwell yw caffaeliad doethineb na gemau.
19Ni ellir cyffelybu y topas o Ethiopia iddi hi: ni chydbrisir hi ag aur pur.
20mynegodd hi; efe a’i paratôdd hi, a hefyd efe a’i chwiliodd hi allan.
28Ac wrth ddyn efe a ddywedodd, Wele, Deut 4:6; Salm 111:10; Diar 1:7; 9:10; Preg 12:13ofn yr Arglwydd, hynny ydyw doethineb; a chilio oddi wrth ddrwg, sydd ddeall.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
