1 Brenhinoedd 15 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Annuwiol deyrnasiad Abeiam. 8 Asa ar ei ôl ef, 11 yn teyrnasu yn ddaionus; 16 a’r rhyfel rhyngddo ef a Baasa, yn peri iddo wneuthur cynghrair â Benhadad. 24 Jehosaffat yn dyfod ar ei ôl ef. 25 Drygionus lywodraeth Nadab. 27 Brad Baasa yn ei erbyn ef, yn cyflawni proffwydoliaeth Ahïa. 31 Hanes Nadab, a’i farwolaeth. 33 Drygionus lywodraeth Baasa.

1Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i’r brenin Abisalom.

3Ac efe a rodiodd yn holl bechodau ei dad, y rhai a wnaethai efe o’i flaen ef: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r Arglwydd ei Dduw, fel calon Dafydd ei dad.

4Ond er mwyn Dafydd y rhoddodd yr Arglwydd ei Dduw iddo ef oleuni yn Jerwsalem; i gyfodi ei fab ef ar ei ôl ef, ac i sicrhau Jerwsalem:

5Oherwydd gwneuthur o Dafydd yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, ac na chiliodd oddi wrth yr hyn oll a orchmynnodd efe iddo holl ddyddiau ei einioes, ei fam ef oedd Maacha, merch Abisalom.

11Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, fel Dafydd ei dad.

12Ac efe a yrrodd ymaith y cilio efe oddi wrthyf fi.

20Felly Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion y lluoedd, y rhai oedd ganddo ef, yn erbyn dinasoedd Israel, ac a drawodd Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

25A Nadab mab Jeroboam a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn yr ail flwyddyn i Asa brenin Jwda; ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd.

26Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffordd ei dad, ac yn ei bechod ef â’r hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.

27A Baasa mab Ahïa, o dŷ Issachar, a gydfwriadodd yn ei erbyn ef; a Baasa a’i trawodd ef yn Jos 19:44; Pen 16:15Gibbethon eiddo y Philistiaid: canys Nadab a holl Israel oedd yn gwarchae ar Gibbethon.

28A Baasa a’i lladdodd ef yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda, ac a deyrnasodd yn ei le ef.

29A phan deyrnasodd, efe a drawodd holl dŷ Jeroboam; ni adawodd un perchen anadl i Jeroboam, nes ei ddifetha ef, yn ôl Pen 14:10, 14gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahïa y Siloniad:

30Pen 14:16Am bechodau Jeroboam y rhai a bechasai efe, a thrwy y rhai y gwnaethai efe i Israel bechu; oherwydd ei waith ef yn digio Arglwydd Dduw Israel.

31A’r rhan arall o hanes Nadab, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

32A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt.

33Yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Baasa mab Ahïa ar holl Israel yn Tirsa, bedair blynedd ar hugain.

34Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffordd Jeroboam, ac yn ei bechod ef trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help