1A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
2Mab dyn, traetha ddychymyg, a diarheba ddihareb wrth dŷ Israel,
3A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Eryr mawr, mawr ei adenydd, hir ei asgell, llawn plu, yr hwn oedd iddo amryw liwiau, a ddaeth i Libanus, ac ffrwythlon; efe a’i gosododd ef wrth ddyfroedd lawer, ac a’i plannodd fel helygen.
6Ac efe a dyfodd, ac a aeth yn winwydden wasgarog, isel o dwf, a’i changau yn troi ato ef; a’i gwraidd oedd dano ef: felly yr aeth yn winwydden, ac y dug geinciau, ac y bwriodd frig.
7Yr oedd hefyd ryw eryr mawr, mawr ei esgyll, ac â llawer o blu: ac wele y winwydden hon yn plygu ei gwraidd tuag ato ef, ac yn bwrw ei cheinciau tuag ato, i’w dyfrhau ar hyd rhigolau ei phlaniad.
8Mewn maes da wrth ddyfroedd lawer y planasid hi, i fwrw brig, ac i ddwyn ffrwyth, fel y byddai yn winwydden hardd‐deg.
9Dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: A lwydda hi? oni thyn efe ei gwraidd hi? ac oni thyr efe ei ffrwyth hi, fel y gwywo? sych holl ddail ei brig, ac nid trwy fraich mawr, na thrwy bobl lawer, i’w thynnu hi o’i gwraidd.
10Ie, wele, wedi ei phlannu, a lwydda hi? sefyll ohoni trwy gadw ei gyfamod ef.
15Ond 2 Bren 24:20gwrthryfelodd i’w erbyn, gan anfon ei genhadau i’r Aifft, Esa 31:1, 3fel y rhoddid iddo feirch, a phobl lawer. A lwydda efe? a ddianc yr hwn a wnelo hyn? neu a ddiddyma efe y cyfamod, ac a waredir ef?
16Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, Jer 32:5; 34:3; Pen 12:13yng nghartref y brenin yr hwn a’i gwnaeth ef yn frenin, yr hwn y diystyrodd efe ei lw, a’r hwn y diddymodd efe ei gyfamod, gydag ef y bydd efe farw yng nghanol Babilon.
17Ac ni wna Pharo â’i lu mawr, ac â’i fintai luosog, ddim gydag ef mewn rhyfel, Jer 52:4; Pen 4:2wrth godi clawdd, ac wrth adeiladu cestyll, i dorri ymaith lawer einioes.
18Gan ddiystyru ohono y llw, gan ddiddymu y cynghrair, (canys wele, efe a roddasai ei law,) a gwneuthur ohono hynny oll, ni ddianc.
19Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Fel mai byw fi, fy llw yr hwn a ddiystyrodd efe, a’m cyfamod yr hwn a ddiddymodd efe, hwnnw a roddaf fi ar ei ben ef.
20Canys Pen 12:13; 32:3taenaf fy rhwyd arno, ac efe a ddelir yn fy rhwyd, a dygaf ef i Babilon, ac yno yr ymddadleuaf ag ef am ei gamwedd a wnaeth i’m herbyn.
21Pen 12:14A’i holl ffoaduriaid ynghyd â’i holl fyddinoedd a syrthiant gan y cleddyf, a’r gweddill a wasgerir gyda phob gwynt; fel y gwypoch mai myfi yr Arglwydd a’i lleferais.
22Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Mi a gymeraf hefyd frig y gedrwydden uchel, ac a’i gosodaf: o frig ei blagur y torraf un tyner, a mi a’i plannaf ar fynydd uchel a dyrchafedig.
23Ar Esa 2:2, 3; Pen 20:40; Micha 4:1fynydd uchelder Israel y plannaf ef: ac efe a fwrw frig, ac a ddwg ffrwyth, ac a fydd yn gedrwydden hardd‐deg: a phob aderyn o bob rhyw asgell a drig dani; dan gysgod ei changhennau y trigant.
24A holl brennau y maes a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd a ostyngais y pren uchel, ac a ddyrchefais y pren isel; a sychais y pren ir, ac a ireiddiais y pren crin: myfi yr Arglwydd a’i lleferais, ac a’i gwneuthum.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.