Mathew 13 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 31. —3 Dameg yr heuwr a’r had; 18 a’i dehongliad. 24 Dameg yr efrau, 31 yr hedyn mwstard, 33 y surdoes, 44 y trysor cuddiedig, 45 y perl, 47 a’r rhwyd. 53 Y modd y dirmygir Crist gan ei wladwyr ei hun.

1Y dydd hwnnw yr aeth yr Iesu allan o’r tŷ, i’r llong, ac yr eisteddodd: a’r holl dyrfa a safodd ar y lan.

3Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau trwy ddamhegion, gan ddywedyd, Luc 8:5Wele, yr heuwr a aeth allan i hau.

4Ac fel yr oedd efe yn hau, peth a syrthiodd ar fin y ffordd; a’r adar a ddaethant, ac a’i difasant.

5Peth arall a syrthiodd ar greigleoedd, lle ni chawsant fawr ddaear: ac yn y man yr eginasant, gan nad oedd iddynt ddyfnder daear:

6Ac wedi codi yr haul, y poethasant; ac am nad oedd ganddynt wreiddyn, hwy a wywasant.

7A pheth arall a syrthiodd ymhlith y drain; a’r drain a godasant, ac a’u tagasant hwy.

8Peth arall hefyd a syrthiodd mewn tir da, ac a ddygasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, arall ar ei dri ugeinfed, arall ar ei ddegfed ar hugain.

9Pen 11:15Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.

10A daeth y disgyblion, ac a ddywedasant wrtho, Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion?

11Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Am Pen 16:17; Marc 4:11; 1 Cor 2:10; 1 Ioan 2:27roddi i chwi wybod dirgelion teyrnas nefoedd, ac ni roddwyd iddynt hwy.

12Pen 25:29; Marc 4:25; Luc 8:18; 19:26Oblegid pwy bynnag sydd ganddo, i hwnnw y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd: eithr pwy bynnag nid oes ganddo, oddi arno ef y dygir, ie, yr hyn sydd ganddo.

13Am hynny yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamhegion: canys a hwy yn gweled, nid ydynt yn gweled; ac yn clywed, nid ydynt yn clywed, nac yn deall.

14Ac ynddynt hwy y cyflawnir proffwydoliaeth Eseias, yr hon sydd yn dywedyd, Esa 6:9; Esec 12:2; Marc 4:12; Luc 8:10; Ioan 12:40; Act 28:26; Rhuf 11:8Gan glywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch;

15Canys brasawyd calon y bobl hyn, a hwy a glywsant â’u Heb 5:11clustiau yn drwm, ac a gaeasant eu llygaid; rhag canfod â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’r galon, a throi, ac i mi eu hiacháu hwynt.

16Eithr Pen 16:17; Luc 10:23, 24; Ioan 20:29dedwydd yw eich llygaid chwi, am eu bod yn gweled; a’ch clustiau, am eu bod yn clywed:

17Oblegid yn wir y dywedaf i chwi, 1 Pedr 1:10chwenychu o lawer o broffwydi a rhai cyfiawn weled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant; a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac nis clywsant.

18 Marc 4:14; Luc 8:11 Gwrandewch chwithau gan hynny ddameg yr heuwr.

19Pan glywo neb air Pen 4:23y deyrnas, ac heb ei ddeall, y mae’r drwg yn dyfod, ac yn cipio’r hyn a heuwyd yn ei galon ef. Dyma’r hwn a heuwyd ar fin y ffordd.

20A’r hwn a heuwyd ar y creigleoedd, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair, ac yn ebrwydd Esa 58:2; Ioan 5:35trwy lawenydd yn ei dderbyn;

21Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr dros amser y mae: a phan ddelo gorthrymder neu erlid oblegid y gair, yn y fan Pen 11:6efe a rwystrir.

22Pen 19:23; Marc 10:23; Luc 18:24; 1 Tim 6:9A’r hwn a heuwyd Jer 4:3ymhlith y drain, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair; ac y mae gofal y byd hwn, a thwyll cyfoeth, yn tagu’r gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth.

23Ond yr hwn a heuwyd yn y tir da, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair, ac yn ei ddeall; sef yr hwn sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain.

24Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Teyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddyn a heuodd had da yn ei faes:

25A thra oedd y dynion yn cysgu, daeth ei elyn ef, ac a heuodd efrau ymhlith y gwenith, ac a aeth ymaith.

26Ac wedi i’r eginyn dyfu, a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd.

27A gweision gŵr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, oni heuaist ti had da yn dy faes? o ba le gan hynny y mae’r efrau ynddo?

28Yntau a ddywedodd wrthynt, Y gelyn ddyn a wnaeth hyn. A’r gweision a ddywedasant wrtho, A fynni di gan hynny i ni fyned a’u casglu hwynt?

29Ac efe a ddywedodd, Na fynnaf; rhag i chwi, wrth gasglu’r efrau, ddiwreiddio’r gwenith gyda hwynt.

30Gadewch i’r ddau gyd‐dyfu hyd y cynhaeaf: ac yn amser y cynhaeaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau i’w llwyr losgi; ond Pen 3:12cesglwch y gwenith i’m hysgubor.

31Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Marc 4:30; Luc 13:19Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dyn ac a’i heuodd yn ei faes:

32Yr hwn yn wir sydd leiaf o’r holl hadau; ond wedi iddo dyfu, mwyaf un o’r llysiau ydyw, ac y mae efe yn myned yn bren; fel y mae adar y nef yn dyfod, ac yn nythu yn ei gangau ef.

33 Luc 13:21 Dameg arall a lefarodd efe wrthynt; Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes, yr hwn a gymerodd gwraig, ac a’i cuddiodd mewn tri phecaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl.

34Marc 4:33, 34Hyn oll a lefarodd yr Iesu trwy ddamhegion wrth y torfeydd; ac heb ddameg ni lefarodd efe wrthynt;

35Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy’r proffwyd, gan ddywedyd, Salm 78:2Agoraf fy ngenau mewn damhegion; mynegaf bethau cuddiedig er pan seiliwyd y byd.

36Yna yr anfonodd yr Iesu y torfeydd ymaith, ac yr aeth i’r tŷ: a’i ddisgyblion a ddaethant ato, gan ddywedyd, Eglura i ni ddameg efrau’r maes.

37Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd yn hau’r had da, yw Mab y dyn;

38A’r maes yw’r byd; a’r had da, hwynt‐hwy yw plant y deyrnas; a’r efrau yw Gen 3:13; Ioan 8:44; Act 13:10; 1 Ioan 3:8plant y drwg;

39A’r gelyn yr hwn a’u heuodd hwynt, yw diafol; Joel 3:13; Dat 14:15a’r cynhaeaf yw diwedd y byd; a’r medelwyr yw’r angylion.

40Megis gan hynny y cynullir yr efrau, ac a’u llwyr losgir yn tân; felly y bydd yn niwedd y byd hwn.

41Pen 24:31Mab y dyn a ddenfyn ei angylion, a hwy a gynullant allan o’i deyrnas ef yr holl dramgwyddiadau, a’r rhai a wnânt anwiredd;

42Ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân: Pen 8:12yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.

43Dan 12:3; 1 Cor 15:42Yna y llewyrcha’r rhai cyfiawn fel yr haul, yn nheyrnas eu Tad. Ad. 8Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.

44Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio mewn maes; yr hwn wedi i ddyn ei gaffael, a’i cuddiodd, ac o lawenydd amdano, sydd yn myned ymaith, Phil 3:7, 8ac yn gwerthu’r hyn oll a fedd, ac Esa 55:1; Dat 3:18yn prynu’r maes hwnnw.

45Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i farchnatawr, yn ceisio perlau teg:

46Yr hwn wedi iddo gaffael un perl gwerthfawr, a aeth, ac a werthodd gymaint oll ag a feddai, ac a’i prynodd ef.

47Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd a fwriwyd yn y môr, ac Pen 22:10a gasglodd o bob rhyw beth:

48Yr hon, wedi ei llenwi, a ddygasant i’r lan, ac a eisteddasant, ac a gasglasant y rhai da mewn llestri, ac a fwriasant allan y rhai drwg.

49Felly y bydd yn niwedd y byd: yr angylion a ânt allan, ac Pen 25:32a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn,

50Ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân: Ad. 42yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.

51Iesu a ddywedodd wrthynt, A ddarfu i chwi ddeall hyn oll? Hwythau a ddywedasant wrtho, Do, Arglwydd.

52A dywedodd yntau wrthynt, Am hynny pob ysgrifennydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd, sydd debyg i ddyn o berchen tŷ, yr hwn sydd yn dwyn allan o’i drysor Can 7:13 bethau newydd a hen.

53A bu, wedi i’r Iesu orffen y damhegion hyn, efe a ymadawodd oddi yno.

54Pen 2:23; Marc 6:1; Luc 4:16, 23Ac efe a ddaeth i’w wlad ei hun, ac a’u dysgodd hwynt yn eu synagog; fel y synnodd arnynt, ac y dywedasant, O ba le y daeth y doethineb hwn, a’r gweithredoedd nerthol i’r dyn hwn?

55Marc 6:3; Ioan 6:42Onid hwn yw mab y saer? onid Mair y gelwir ei fam ef? a Iago, a Joses, a Simon, a Jwdas, Pen 12:46ei frodyr ef?

56Ac onid yw ei chwiorydd ef oll gyda ni? o ba le gan hynny y mae gan hwn y pethau hyn oll?

57A hwy Pen 11:6a rwystrwyd ynddo ef. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Marc 6:4; Luc 4:24; Ioan 4:44Nid yw proffwyd heb anrhydedd, ond yn ei wlad ei hun, ac yn ei dŷ ei hun.

58Ac Marc 6:5, 6ni wnaeth efe nemor o weithredoedd nerthol yno, oblegid eu hanghrediniaeth hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help