Eseciel 45 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Rhandir y cysegr, 6 a’r eiddo y ddinas, 7 a’r tywysog. 9 Ordeiniadau i’r tywysog.

1A phan rannoch y tir wrth goelbren yn etifeddiaeth, offrwm cysegredig o’r tir; yr hyd fydd pum mil ar hugain o gorsennau o hyd, a dengmil o led. Cysegredig fydd hynny yn ei holl derfyn o amgylch.

2O hyn y bydd i’r cysegr faes pentrefol iddo o amgylch.

3Ac o’r mesur hwn y mesuri bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led; ac yn hwnnw y bydd y cysegr, a’r lle sancteiddiolaf.

4Y rhan gysegredig o’r tir fydd i’r offeiriaid, y rhai a wasanaethant y cysegr, y rhai a nesânt i wasanaethu yr Arglwydd; ac efe a fydd iddynt yn lle tai, ac yn gysegrfa i’r cysegr.

5A’r pum mil ar hugain o hyd, a’r dengmil o led, fydd hefyd i’r Lefiaid y rhai a wasanaethant y tŷ, yn etifeddiaeth trethau oddi ar fy mhobl, medd yr Arglwydd Dduw.

10milyn hefyd o’r praidd a offrymwch o bob deucant, allan o ddolydd Israel, yn fwyd‐offrwm, ac yn boethoffrwm, ac yn aberthau hedd, i wneuthur cymod drostynt, medd yr Arglwydd Dduw.

16Holl bobl y tir fyddant dan yr offrwm hwn i’r tywysog yn Israel.

17Ac ar y tywysog y bydd poethoffrwm, a bwyd‐offrwm, a diod‐offrwm ar yr uchel wyliau, a’r newyddloerau, a’r Sabothau, trwy holl osodedig wyliau tŷ Israel: efe a ddarpara bech‐aberth, a bwyd‐offrwm, a phoethoffrwm, ac aberthau hedd, i wneuthur cymod dros dŷ Israel.

18Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; O fewn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, y cymeri fustach ieuanc perffaith‐gwbl, ac Lef 16:16y puri y cysegr.

19Yna y cymer yr offeiriad o waed y pech‐aberth, ac a’i rhydd ar orsingau y tŷ, ac ar bedair congl ystôl yr allor, ac ar orsingau porth y cyntedd nesaf i mewn.

20Felly y gwnei hefyd ar y seithfed dydd o’r mis, dros y neb a becho yn amryfus, a thros yr ehud: felly y purwch y tŷ.

21Exod 12:18; Lef 23:5, 6; Num 9:3; 28:17; Deut 16:1Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, y bydd i chwi y pasg; gŵyl fydd i chwi saith niwrnod: bara croyw a fwytewch.

22A’r tywysog a ddarpara ar y dydd hwnnw drosto ei hun, a thros holl bobl y wlad, fustach yn bech‐aberth.

23A saith niwrnod yr ŵyl y darpara efe yn offrwm poeth i’r Arglwydd, saith o fustych, a saith o hyrddod perffaith‐gwbl, bob dydd o’r saith niwrnod; a bwch geifr yn bech‐aberth bob dydd.

24Bwyd‐offrwm hefyd a ddarpara efe, sef effa gyda phob bustach, ac effa gyda phob hwrdd, a hin o olew gyda’r effa.

25Lef 23:33; Num 29:12; Deut 16:13Yn y seithfed mis, ar y pymthegfed dydd o’r mis, y gwna y cyffelyb ar yr ŵyl dros saith niwrnod; sef fel y pech‐aberth, fel y poethoffrwm, ac fel y bwyd‐offrwm, ac fel yr olew.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help