1A Moses a alwodd holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Clyw, O Israel, y deddfau a’r barnedigaethau yr ydwyf yn eu llefaru lle y clywoch heddiw; fel y byddo i chwi eu dysgu, a’u cadw, a’u gwneuthur.
2caethiwed.
7Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.
8Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd oddi uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear oddi isod, nac a’r y sydd yn y dyfroedd oddi tan y ddaear:
9Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw ydwyf Dduw eiddigus, Exod 34:7yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt;
10Jer 32:18Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchmynion.
11Lef 19:12; Mat 5:33Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer.
12Cadw y dydd Saboth i’w sancteiddio ef, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
13Exod 23:12; 35:2; Esec 20:12Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith:
14Ond y seithfed dydd yw Gen 2:2; Heb 4:4Saboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th was, na’th forwyn, na’th ych, na’th asyn, nac yr un o’th anifeiliaid, na’th ddieithr‐ddyn yr hwn fyddo o fewn dy byrth; fel y gorffwyso dy was a’th forwyn, fel ti dy hun.
15A chofia mai gwas a fuost ti yng ngwlad yr Aifft, a’th ddwyn o’r Arglwydd dy Dduw allan oddi yno â llaw gadarn, ac â braich estynedig: am hynny y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti gadw dydd y Saboth.
16 Lef 19:3; Pen 27:16; Eff 6:2, 3; Col 3:20Anrhydedda dy dad a’th fam, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti; fel yr estynner dy ddyddiau, ac fel y byddo yn dda i ti ar y ddaear yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.
17Mat 5:21Na ladd.
18Luc 18:20Ac na wna odineb.
19Rhuf 13:9Ac na ladrata.
20Ac na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog.
21Ac Rhuf 7:7na chwennych wraig dy gymydog ac na chwennych dŷ dy gymydog, na’i faes, na’i was, na’i forwyn, na’i ych, na’i asyn, na dim a’r y sydd eiddo dy gymydog.
22Y geiriau hyn a lefarodd yr Arglwydd wrth eich holl gynulleidfa yn y mynydd, o ganol y tân, y cwmwl, a’r tywyllwch, â llais uchel; ac ni chwanegodd ddim; ond Exod 24:12ysgrifennodd hwynt ar ddwy lech o gerrig, ac a’u rhoddes ataf fi.
23Exod 20:19A darfu, wedi clywed ohonoch y llais o ganol y tywyllwch, (a’r mynydd yn llosgi gan dân,) yna nesasoch ataf, sef holl benaethiaid eich llwythau, a’ch henuriaid chwi;
24Ac a ddywedasoch, Wele, yr Arglwydd ein Duw a ddangosodd i ni ei ogoniant, a’i fawredd; Exod 19:19a’i lais ef a glywsom ni o ganol y tân: heddiw y gwelsom lefaru o Dduw wrth ddyn, Pen 4:33; Barn 13:22a byw ohono.
25Weithian gan hynny paham y byddwn feirw? oblegid y tân mawr hwn a’n difa ni: canys os nyni a chwanegwn glywed llais yr Arglwydd ein Duw mwyach, marw a wnawn.
26Oblegid pa gnawd oll sydd, yr hwn a glybu lais y Duw byw yn llefaru o ganol y tân, fel nyni, ac a fu fyw?
27Nesâ di, a chlyw yr hyn oll a ddywed yr Arglwydd ein Duw; a Exod 20:19; Heb 12:19llefara di wrthym ni yr hyn oll a lefaro yr Arglwydd ein Duw wrthyt ti: a nyni a wrandawn, ac a wnawn hynny.
28A’r Arglwydd a glybu lais eich geiriau chwi, pan lefarasoch wrthyf; a dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Clywais lais geiriau y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyt: Pen 18:17da y dywedasant yr hyn oll a ddywedasant.
29Pen 32:29; Salm 81:13; Esa 48:18; Mat 23:37O na byddai gyfryw galon ynddynt, i’m hofni i, ac i gadw fy holl orchmynion bob amser; fel y byddai da iddynt ac i’w plant yn dragwyddol!
30Dos, dywed wrthynt, Dychwelwch i’ch pebyll.
31Ond saf di yma gyda myfi; a mi a ddywedaf wrthyt yr holl orchmynion, a’r deddfau, a’r barnedigaethau a ddysgi di iddynt, ac a wnânt hwythau yn y wlad yr wyf fi ar ei rhoddi iddynt i’w pherchenogi
32Edrychwch gan hynny am wneuthur fel y gorchmynnodd yr Arglwydd eich Duw i chwi: Jos 1:7na chiliwch i’r tu deau nac i’r tu aswy.
33Cerddwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnodd yr Arglwydd eich Duw i chwi; fel y byddoch fyw, ac y byddo yn dda i chwi, ac yr estynnoch ddyddiau yn y wlad yr hon a feddiennwch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.