1Ffestus gan hynny, wedi dyfod i’r dalaith, ar ôl tri diwrnod a aeth i fyny i Jerwsalem o Cesarea.
2Yna yr ymddangosodd yr archoffeiriad a phenaethiaid yr Iddewon ger ei fron ef, yn erbyn Paul, ac a ymbiliasant ag ef,
3Gan geisio ffafr yn ei erbyn ef, fel y cyrchai efe ef i Jerwsalem, gan wneuthur cynllwyn i’w ladd ef ar y ffordd.
4A Ffestus a atebodd, y cedwid Paul yn Cesarea, ac yr âi efe ei hun yno ar fyrder.
5Y rhai gan hynny a allant yn eich mysg, eb efe, deuant i waered gyda mi, ac od oes dim drwg yn y gŵr hwn, cyhuddant ef.
6A phryd na thrigasai efe gyda hwy dros ddeng niwrnod, efe a aeth i waered i Cesarea; a thrannoeth efe a eisteddodd yn yr orsedd, ac a archodd ddwyn Paul ato.
7Ac wedi ei ddyfod, yr Iddewon a ddaethent o Jerwsalem i waered, a safasant o’i amgylch, ac a ddygasant lawer o achwynion trymion yn erbyn Paul, y rhai nis gallent eu profi.
8Ac yntau yn ei amddiffyn ei hun, ymddangosodd archoffeiriaid a henuriaid yr Iddewon gerbron, gan ddeisyf cael barn yn ei erbyn ef.
16I’r rhai yr atebais, nad oedd arfer y Rhufeinwyr roddi neb rhyw ddyn i’w ddifetha, nes cael o’r cyhuddol ei gyhuddwyr yn ei wyneb, a chael lle i’w amddiffyn ei hun rhag y cwyn.
17Wedi eu dyfod hwy yma gan hynny, heb wneuthur dim oed, trannoeth mi a eisteddais ar yr orseddfainc, ac a orchmynnais ddwyn y gŵr gerbron.
18Am yr hwn ni ddug y cyhuddwyr i fyny ddim achwyn o’r pethau yr oeddwn i yn tybied:
19Ond yr oedd ganddynt yn ei erbyn ef ryw ymofynion ynghylch eu coelgrefydd eu hunain, ac ynghylch un Iesu a fuasai farw, yr hwn a daerai Paul ei fod yn fyw.
20A myfi, yn anhysbys i ymofyn am hyn, a ddywedais, a fynnai efe fyned i Jerwsalem, a’i farnu yno am y pethau hyn.
21Eithr gwedi i Paul apelio i’w gadw i wybyddiaeth Augustus, mi a erchais ei gadw ef hyd oni allwn ei anfon ef at Gesar.
22Yna Edrych Act 9:15Agripa a ddywedodd wrth Ffestus, Minnau a ewyllysiwn glywed y dyn. Yntau a ddywedodd, Ti a gei ei glywed ef yfory.
23Trannoeth gan hynny, wedi dyfod Agripa a Bernice, â rhwysg fawr, a myned i mewn i’r orsedd, â’r pen‐capteiniaid a phendefigion y ddinas, wrth orchymyn Ffestus fe a ddygwyd Paul gerbron.
24A Ffestus a ddywedodd, O frenin Agripa, a chwi wŷr oll sydd gyda ni yn bresennol, chwi a welwch y dyn hwn, oblegid pa un y galwodd holl liaws yr Iddewon arnaf fi, yn Jerwsalem ac yma, gan lefain Pen 22:22na ddylai efe fyw yn hwy.
25Eithr pan ddeellais Pen 23:9; 26:31na wnaethai efe ddim yn haeddu angau, ac yntau ei hun wedi apelio at Augustus, mi a fernais ei ddanfon ef.
26Am yr hwn nid oes gennyf ddim sicrwydd i’w ysgrifennu at fy arglwydd. Oherwydd paham mi a’i dygais ef ger eich bron chwi, ac yn enwedig ger dy fron di, O frenin Agripa; fel, wedi ei holi ef, y caffwyf ryw beth i’w ysgrifennu.
27Canys allan o reswm y gwelaf fi anfon carcharor, heb hysbysu hefyd yr achwynion a fyddo yn ei erbyn ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.