1Ac yn y dyddiau hynny y daeth Marc 1:4; Luc 3:2Ioan Fedyddiwr, gan bregethu yn niffeithwch Jwdea,
2A dywedyd, Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd.
3Oblegid hwn yw efe yr hwn y dywedwyd amdano gan Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Esa 40:3; Marc 1:3; Luc 3:4; Ioan 1:23Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd; gwnewch yn union ei lwybrau ef.
4A’r Marc 1:6; Edrych 2 Bren 1:8; Sech 13:4Ioan hwnnw oedd â’i ddillad o flew camel, a gwregys o groen ynghylch ei lwynau: a’i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt.
5Marc 1:5Yna yr aeth allan ato ef Jerwsalem, a holl Jwdea, a’r holl wlad o amgylch yr Iorddonen:
6A hwy a fedyddiwyd ganddo ef yn yr Iorddonen, Act 19:4, 18gan gyffesu eu pechodau.
7A phan welodd efe lawer o’r Phariseaid ac o’r Sadwceaid yn dyfod i’w fedydd ef, efe a ddywedodd wrthynt hwy, Pen 12:34 23:33 Luc 3:7O genhedlaeth gwiberod, pwy a’ch rhagrybuddiodd i ffoi rhag Rhuf 5:9; 1 Thess 1:10y llid a fydd?
8Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch.
9Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain, Ioan 8:33, 39; Act 13:26Y mae gennym ni Abraham yn dad i ni: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw, ie, o’r meini hyn, gyfodi plant i Abraham.
10Ac yr awr hon hefyd y mae’r fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: Pen 7:19; Ioan 15:6pob pren gan hynny yr hwn nid yw yn dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân.
11Marc 1:8; Luc 3:16; Ioan 1:15, 26; Act 1:5; 11:16; 19:4Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch: eithr yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, sydd gryfach na myfi, yr hwn nid ydwyf deilwng i ddwyn ei esgidiau: Esa 4:4; Mal 3:2efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân, ac â thân.
12Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl ei wenith i’w ysgubor; eithr yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.
13 Marc 1:9; Luc 3:21 Yna y daeth yr Iesu o Galilea i’r Iorddonen at Ioan, i’w fedyddio ganddo.
14Eithr Ioan a warafunodd iddo ef, gan ddywedyd, Y mae arnaf fi eisiau fy medyddio gennyt ti, ac a ddeui di ataf fi?
15Ond yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Gad yr awr hon; canys fel hyn y mae’n weddus inni gyflawni pob cyfiawnder. Yna efe a adawodd iddo.
16A’r Iesu, wedi ei fedyddio, a aeth yn y fan i fyny o’r dwfr: ac wele, y nefoedd a agorwyd iddo, ac efe a welodd Esa 11:2; 42:1; Ioan 1:32, 33Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen, ac yn dyfod arno ef.
17Ac wele Ioan 12:28lef o’r nefoedd, yn dywedyd, Salm 2:7; Esa 42:1; Pen 12:18; 17:5; Luc 9:35; Eff 1:6; Col 1:13; 2 Pedr 1:17Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m bodlonwyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.