Lefiticus 23 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Gwyliau yr Arglwydd. 3 Y Saboth. 4 Y Pasg. 9 Yr ysgub flaenffrwyth. 15 Gŵyl y Sulgwyn. 22 Rhaid yw gadael peth i’r tlodion i’w loffa. 23 Gŵyl yr utgyrn. 26 Y dydd cymod. 33 Gŵyl y pebyll.

1Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliau yr Arglwydd, y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd, ydyw fy ngwyliau hyn.

3ysgub blaenffrwyth eich cynhaeaf at yr offeiriad.

11Cyhwfaned yntau yr ysgub gerbron yr Arglwydd, i’ch gwneuthur yn gymeradwy: trannoeth wedi’r Saboth y cyhwfana yr offeiriad hi.

12Ac offrymwch ar y dydd y cyhwfaner yr ysgub, oen blwydd, perffaith‐gwbl, yn boethoffrwm i’r Arglwydd.

13A’i fwyd‐offrwm o ddwy ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd, yn arogl peraidd: a’i ddiod‐offrwm fyddo win, pedwaredd ran hin.

14Bara hefyd, nac ŷd wedi ei grasu, na thywysennau ir, ni chewch eu bwyta hyd gorff y dydd hwnnw, nes dwyn ohonoch offrwm eich Duw. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau, fydd hyn.

15A cedwch eich Saboth.

33A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd.

34Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, uchel ŵyl yw hi; na wnewch ddim caethwaith.

37Dyma wyliau yr Arglwydd, y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd, i offrymu i’r Arglwydd aberth tanllyd, offrwm poeth, bwyd‐offrwm, aberth, a diod‐offrwm; pob peth yn ei ddydd:

38Heblaw Sabothau yr Arglwydd, ac heblaw eich rhoddion chwi, ac heblaw eich holl addunedau, ac heblaw eich holl offrymau gwirfodd, a roddoch i’r Arglwydd.

39Ac ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis, pan gynulloch ffrwyth eich tir, cedwch ŵyl i’r Arglwydd saith niwrnod: bydded gorffwystra ar y dydd cyntaf, a gorffwystra ar yr wythfed dydd.

40ffrwyth pren prydferth, canghennau palmwydd, a brig pren caeadfrig, a helyg afon; ac ymlawenhewch gerbron yr Arglwydd eich Duw saith niwrnod.

41A chedwch hon yn ŵyl i’r Arglwydd saith niwrnod yn y flwyddyn: deddf dragwyddol yn eich cenedlaethau yw; ar y seithfed mis y cedwch hi yn ŵyl.

42Mewn bythod yr arhoswch saith niwrnod; pob priodor yn Israel a drigant mewn bythod:

43Fel y gwypo eich cenedlaethau chwi mai mewn bythod y perais i feibion Israel drigo, pan ddygais hwynt allan o dir yr Aifft: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

44A thraethodd Moses wyliau yr Arglwydd wrth feibion Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help