1Yna y mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, Wele y Philistiaid yn ymladd yn erbyn Ceila; ac y maent hwy yn anrheithio yr ysguboriau.
2Am hynny y gofynnodd Dafydd i’r Arglwydd, gan ddywedyd, A af fi a tharo’r Philistiaid hyn? A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Dafydd, Dos, a tharo’r Philistiaid, ac achub Ceila.
3A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele ni yn ofnus yma yn Jwda: pa faint mwy os awn i Ceila, yn erbyn byddinoedd y Philistiaid?
4Yna Dafydd eilwaith a ymgynghorodd â’r Arglwydd. A’r Arglwydd a’i hatebodd ef, ac a ddywedodd, Cyfod, dos i waered i Ceila; canys myfi a roddaf y Philistiaid yn dy law di.
5A Dafydd a’i wŷr a aethant i Ceila, ac a ymladdodd â’r Philistiaid: ac a ddug eu gwartheg hwynt, ac a’u trawodd hwynt â lladdfa fawr. Felly y gwaredodd Dafydd drigolion Ceila.
6A bu, pan ddyry arglwyddi Ceila fyfi a’m gwŷr yn llaw Saul? A’r Arglwydd a ddywedodd, Rhoddant.
13Yna y cyfododd Dafydd a’i wŷr, y rhai oedd ynghylch chwe chant, ac a aethant o Ceila, ac a rodiasant lle y gallent. A mynegwyd i Saul, fod Dafydd wedi dianc o Ceila; ac efe a beidiodd â myned allan.
14A Dafydd a arhosodd yn yr anialwch mewn amddiffynfeydd, ac a arhodd mewn mynydd, yn anialwch o’r tu deau i’r diffeithwch?
20Ac yn awr, O frenin, tyred i waered yn ôl holl ddymuniad dy galon; a bydded arnom ni ei roddi ef yn llaw y brenin.
21A dywedodd Saul, Bendigedig fyddoch chwi gan yr Arglwydd: canys tosturiasoch wrthyf.
22Ewch, atolwg, paratowch; eto mynnwch wybod hefyd, ac edrychwch am ei gyniweirfa ef, lle y mae efe yn tramwy, a phwy a’i gwelodd ef yno; canys dywedwyd i mi ei fod ef yn gyfrwys iawn.
23Edrychwch gan hynny, a mynnwch wybod yr holl lochesau y mae efe yn ymguddio ynddynt, a dychwelwch ataf fi â sicrwydd, fel yr elwyf gyda chwi; ac os bydd efe yn y wlad, mi a chwiliaf amdano ef trwy holl filoedd Jwda.
24A hwy a gyfodasant, ac a aethant i Siff o flaen Saul: ond Dafydd a’i wŷr oedd yn anialwch i’r diffeithwch.
25Saul hefyd a’i wŷr a aeth i’w geisio ef. A mynegwyd i Dafydd: am hynny efe a ddaeth i waered i graig, ac a arhosodd yn anialwch Maon. A phan glybu Saul hynny, efe a erlidiodd ar ôl Dafydd yn anialwch Maon.
26A Saul a aeth o’r naill du i’r mynydd, a Dafydd a’i wŷr o’r tu arall i’r mynydd; ac yr oedd Dafydd yn brysio i fyned ymaith rhag ofn Saul; canys Saul a’i wŷr a amgylchynasant Dafydd a’i wŷr, i’w dala hwynt.
27 Sela Hamma‐lecoth.
29A Dafydd a aeth i fyny oddi yno, ac a arhosodd yn amddiffynfeydd En‐gedi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.