1Yna Abel‐misraim, yr hwn sydd dros yr Iorddonen.
12A’i feibion a wnaethant iddo megis y gorchmynasai efe iddynt.
13Canys anfonasant at Joseff i ddywedyd, Dy dad a orchmynnodd o flaen ei farw, gan ddywedyd,
17Fel hyn y dywedwch wrth Joseff; Atolwg, maddau yr awr hon gamwedd dy frodyr, a’u pechod hwynt; canys gwnaethant i ti ddrwg: ond yr awr hon, maddau, atolwg, gamwedd gweision Duw dy dad. Ac wylodd Joseff pan lefarasant wrtho.
18A’i frodyr a ddaethant hefyd, ac a syrthiasant ger ei fron ef; ac a ddywedasant, Wele ni yn weision i ti.
19A dywedodd Joseff wrthynt, Pen 45:5Nac ofnwch; canys a ydwyf fi yn lle Duw?
20Chwi a fwriadasoch ddrwg i’m herbyn; ond Duw a’i bwriadodd i ddaioni, i ddwyn i ben, fel y gwelir heddiw, i gadw yn fyw bobl lawer.
21Am hynny, nac ofnwch yr awr hon: myfi a’ch cynhaliaf chwi, a’ch rhai bach. Ac efe a’u cysurodd hwynt, ac a lefarodd wrth fodd eu calon.
22A Joseff a drigodd yn yr Aifft, efe, a theulu ei dad: a bu Joseff fyw gan mlynedd a deg.
23Gwelodd Joseff hefyd, o Effraim, orwyrion: Num 32:39maethwyd hefyd blant Machir, fab Manasse, ar liniau Joseff.
24A dywedodd Joseff wrth ei frodyr, Myfi sydd yn marw: a Exod 3:16; Heb 11:22
Duw gan ymweled a ymwêl â chwi, ac a’ch dwg chwi i fyny o’r wlad hon, i’r wlad Pen 15:14; 26:3; 35:12; 46:4a dyngodd efe i Abraham, i Isaac, ac i Jacob.25A Exod 13:19; Jos 24:32; Act 7:16thyngodd Joseff feibion Israel, gan ddywedyd, Duw gan eich gofwyo a’ch gofwya chwi; dygwch chwithau fy esgyrn i fyny oddi yma.
26A Joseff a fu farw yn fab deng mlwydd a chant: a hwy a’i peraroglasant ef; ac efe a osodwyd mewn arch yn yr Aifft.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.