1 Cronicl 11 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Eneinio Dafydd yn lle Saul, o gytundeb cyffredin, yn Hebron. 4 Ac yntau yn ennill tŵr Seion oddi ar y Jebusiaid, trwy wroldeb Joab. 10 Enwau cedyrn Dafydd.

1Yna borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi dywysog ar fy mhobl Israel.

3A holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron, a Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, gerbron yr Arglwydd; a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr Arglwydd trwy law Dinas Dafydd.

8Ac efe a adeiladodd y ddinas oddi amgylch, o Milo amgylch ogylch: a Joab a atgyweiriodd y rhan arall i’r ddinas.

9A Dafydd a aeth ac a gynyddodd fwyfwy, ac Arglwydd y lluoedd oedd gydag ef.

10 Hachmoni, pen y capteiniaid: hwn a ddyrchafodd ei waywffon yn erbyn tri chant, y rhai a laddwyd ar unwaith ganddo.

12Ac ar ei ôl ef Eleasar mab Dodo, yr Ahohiad, hwn oedd un o’r tri chadarn.

13Hwn oedd gyda Dafydd yn Pasdammim; a’r Philistiaid a ymgynullasant yno i ryfel, ac yr ydoedd rhan o’r maes yn llawn haidd, a’r bobl a ffoesant o flaen y Philistiaid.

14A hwy a ymosodasant yng nghanol y rhandir honno, ac a’i hachubasant hi, ac a drawsant y Philistiaid: felly y gwaredodd yr Arglwydd hwynt ag ymwared mawr.

15 A a beryglasant eu heinioes? oherwydd mewn enbydrwydd am eu heinioes y dygasant ef: am hynny ni fynnai efe ei yfed. Y tri chadarn a wnaethant hyn.

20 gedyrn Moab; ac efe a ddisgynnodd ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira.

23Ac efe a laddodd Eifftddyn, gŵr pum cufydd o fesur; ac yn llaw yr Eifftddyn yr oedd gwaywffon megis carfan gwehydd; ac yntau a aeth i waered ato ef â ffon, ac a ddug y waywffon o law yr Eifftddyn, ac a’i lladdodd ef â’i waywffon ei hun.

24Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada, ac iddo y bu enw ymhlith y tri chadarn.

25Wele, anrhydeddus oedd efe ymysg y deg ar hugain, ond at y tri cyntaf ni ddaeth efe: a gosododd Dafydd ef ar ei wŷr o gard.

26A chedyrn y llu oedd Harodiad, Heles y Peloniad,

28Ira mab Icces y Tecoiad, Abieser yr Anthothiad,

29Sibbechai yr Husathiad, Ilai yr Ahohiad,

30Maharai y Netoffathiad, Heled mab Baana y Netoffathiad,

31Ithai mab Ribai o Gibea meibion Benjamin, Benaia y Pirathoniad,

32Hurai o afonydd Gaas, Abiel yr Arbathiad,

33Asmafeth y Baharumiad, Eliahba y Saalboniad,

34Meibion Hasem y Gisoniad, Jonathan mab Sageth yr Harariad,

35Ahïam mab Sachar yr Harariad, Eliffal mab Ur,

36Heffer y Mecherathiad, Ahïa y Peloniad,

37Hesro y Carmeliad, Naarai mab Esbai,

38Joel brawd Nathan, Mibhar mab Haggeri,

39Selec yr Ammoniad, Naharai y Berothiad, yr hwn oedd yn dwyn arfau Joab mab Serfia,

40Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad,

41Ureias yr Hethiad, Sabad mab Ahlai,

42Adina mab Sisa y Reubeniad, pennaeth y Reubeniaid, a chydag ef ddeg ar hugain,

43Hanan mab Maacha, a Josaffat y Mithniad,

44Usseia yr Asterathiad, Sama a Jehiel, meibion Hothan yr Aroeriad,

45Jediael mab Simri, a Joha ei frawd ef, y Tisiad,

46Eliel y Mahafiad, a Jeribai, a Josafia, meibion Elnaam, ac Ithma y Moabiad,

47Eliel, ac Obed, a Jasiel y Mesobaiad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help