1Drachefn y daeth gair Arglwydd y lluoedd ataf, gan ddywedyd,
2Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; anodd yw hyn yn y dyddiau hyn yng ngolwg gweddill y bobl hyn, anodd fyddai hefyd yn fy ngolwg i? medd Arglwydd y lluoedd.
7Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Wele fi yn gwaredu fy mhobl o dir y dwyrain, ac o dir nid oedd na chyflog i ddyn, na llog am anifail; na heddwch i’r un a elai allan, nac a ddelai i mewn, gan y gorthrymder: oblegid gyrrais yr holl ddynion bob un ym mhen ei gymydog.
11Ond yn awr ni byddaf fi i weddill y bobl hyn megis yn y dyddiau gynt, medd Arglwydd y lluoedd.
12Canys bydd yn ffynadwy; y winwydden a rydd ei ffrwyth, a’r ddaear a rydd ei chynnyrch, a’r nefoedd a roddant eu gwlith: a pharaf i weddill y bobl hyn feddiannu yr holl bethau hyn.
13A bydd, mai megis y buoch chwi, tŷ Jwda a thŷ Israel, yn felltith ymysg y cenhedloedd; felly y’ch gwaredaf chwi, a gwirionedd a thangnefedd yn eich pyrth;
17uchel wyliau daionus: gan hynny cerwch wirionedd a heddwch.
20Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Bydd eto, y daw pobloedd a phreswylwyr dinasoedd lawer:
21Ac yr â preswylwyr y naill ddinas i’r llall, gan ddywedyd, weddïo gerbron yr Arglwydd.
23Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Yn y dyddiau hynny y bydd i ddeg o ddynion, o bob tafodiaith y cenhedloedd, ymaflyd, ymaflyd, meddaf, yng ngodre gŵr o Iddew, gan ddywedyd, Awn gyda chwi: canys clywsom 1 Cor 14:25 fod Duw gyda chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
