1Felly mi a ddychwelais, ac a edrychais ar yr holl yn peri iddo genfigen gan ei gymydog. Hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder ysbryd.
5Diar 6:10; 24:33Y ffôl a wasg ei ddwylo ynghyd, ac a fwyty ei gnawd ei hun.
6Diar 15:16, 17; 16:8Gwell yw llond llaw trwy lonyddwch, na llond dwy law trwy flinder a gorthrymder ysbryd.
7Yna mi a droais, ac a welais wagedd dan yr haul.
8Y mae un yn unig, ac heb ail; ie, nid oes iddo na mab na brawd; ac eto nid oes diwedd ar ei lafur oll: ie, ni chaiff ei lygaid ddigon o gyfoeth; Salm 39:6 ni ddywed efe, I bwy yr ydwyf yn llafurio, ac yn difuddio fy enaid oddi wrth hyfrydwch? Hyn hefyd sydd wagedd, a dyma drafferth flin.
9Gwell yw dau nag un, o achos bod iddynt wobr da am eu llafur.
10Canys os syrthiant, y naill a gyfyd y llall: ond gwae yr unig; canys pan syrthio efe, nid oes ail i’w gyfodi.
11Hefyd os dau a gydorweddant, hwy a ymgynhesant; ond yr unig, pa fodd y cynhesa efe?
12Ac os cryfach fydd un nag ef, dau a’i gwrthwynebant yntau; a rhaff deircainc ni thorrir ar frys.
13Gwell yw bachgen tlawd a doeth, na brenin hen ac ynfyd, yr hwn ni fedr gymryd rhybudd mwyach:
14Canys y naill sydd yn dyfod allan o’r carchardy i deyrnasu, a’r llall wedi ei eni yn ei frenhiniaeth, yn myned yn dlawd.
15Mi a welais y rhai byw oll y rhai sydd yn rhodio dan yr haul, gyda’r ail fab yr hwn a saif yn ei le ef.
16Nid oes diben ar yr holl bobl, sef ar y rhai oll a fu o’u blaen hwynt; a’r rhai a ddêl ar ôl, ni lawenychant ynddo: gwagedd yn ddiau a blinder ysbryd yw hyn hefyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
