Numeri 2 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

Trefn y llwythau yn eu pebyll.

1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,

2Meibion Israel a wersyllant bob un wrth ei luman ei hun, dan arwyddion tŷ eu tadau: o amgylch pabell y cyfarfod y gwersyllant o hirbell.

3A’r rhai a wersyllant o du’r dwyrain tua chodiad haul, fydd gwŷr lluman gwersyll Jwda, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Jwda fydd Nahson mab Aminadab.

4A’i lu ef, a’u rhai rhifedig hwynt, fyddant bedair mil ar ddeg a thrigain a chwe chant.

5A llwyth Issachar a wersyllant yn nesaf ato: a chapten meibion Issachar fydd Nethaneel mab Suar.

6A’i lu ef, a’i rifedigion, fyddant bedair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.

7Yna llwyth Sabulon: ac Elïab mab Helon fydd capten meibion Sabulon.

8A’i lu ef, a’i rifedigion, fyddant ddwy fil ar bymtheg a deugain a phedwar cant.

9Holl rifedigion gwersyll Jwda fyddant yn ôl eu lluoedd, yn gan mil a phedwar ugain mil a chwe mil a phedwar cant. Yn flaenaf y cychwyn y rhai hyn.

10Lluman gwersyll Reuben fydd tua’r deau, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Reuben fydd Elisur mab Sedeur.

11A’i lu ef, a’i rifedigion, fyddant chwe mil a deugain a phum cant.

12A’r rhai a wersyllant yn ei ymyl ef fydd llwyth Simeon: a chapten meibion Simeon fydd Selumiel mab Surisadai.

13A’i lu ef, a’u rhifedigion, fydd onid un trigain mil a thri chant.

14Yna llwyth Gad: a chapten meibion Gad fydd Eliasaff mab Edrych Pen 1:14Reuel.

15A’i lu ef, a’u rhifedigion hwynt, fyddant bum mil a deugain a chwe chant a deg a deugain.

16Holl rifedigion gwersyll Reuben fyddant gan mil ac un ar ddeg a deugain o filoedd, a phedwar cant a deg a deugain, yn ôl eu lluoedd. Ac yn ail y cychwynnant hwy.

17A phabell y cyfarfod a gychwyn yng nghanol y gwersylloedd, gyda gwersyll y Lefiaid: fel y gwersyllant, felly y symudant, pob un yn ei le, wrth eu llumanau.

18Lluman gwersyll Effraim fydd tua’r gorllewin, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Effraim fydd Elisama mab Ammihud.

19A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant ddeugain mil a phum cant.

20Ac yn ei ymyl ef llwyth Manasse; a chapten meibion Manasse fydd Gamaliel mab Pedasur.

21A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant ddeuddeng mil ar hugain a dau gant.

22Yna llwyth Benjamin: a chapten meibion Benjamin fydd Abidan mab Gideoni.

23A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant bymtheng mil ar hugain a phedwar cant.

24Holl rifedigion gwersyll Effraim fyddant, yn ôl eu lluoedd, gan mil ac wyth mil a chant. Ac a gychwynnant yn drydydd.

25Lluman gwersyll Dan fydd tua’r gogledd, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Dan fydd Ahieser mab Ammisadai.

26A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant ddwy fil a thrigain a saith gant.

27A’r rhai a wersyllant yn ei ymyl ef fydd llwyth Aser: a chapten meibion Aser fydd Pagiel mab Ocran.

28A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant un fil a deugain a phum cant.

29Yna llwyth Nafftali: a chapten meibion Nafftali fydd Ahira mab Enan.

30A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant dair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.

31Holl rifedigion gwersyll Dan fyddant gan mil ac onid tair mil trigain mil a chwe chant. Yn olaf y cychwynnant â’u llumanau.

32Dyma rifedigion meibion Israel, wrth dŷ eu tadau. Exod 38:26; Pen 1:46Holl rifedigion y gwersylloedd, yn ôl eu lluoedd, oedd chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain.

33Ond Pen 1:47y Lefiaid ni chyfrifwyd ymysg meibion Israel; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

34A meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses: felly y gwersyllasant wrth eu llumanau, ac felly y cychwynasant, bob un yn ei deuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help