Marc 8 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 32. —1 Crist yn porthi y bobl yn rhyfeddol: 10 yn gwrthod rhoddi arwydd i’r Phariseaid: 14 yn rhybuddio ei ddisgyblion i ochelyd surdoes y Phariseaid, a surdoes Herod: 22 yn rhoddi ei olwg i ddyn dall: 27 yn cydnabod mai efe yw Crist, yr hwn a ddioddefai, ac a gyfodai eilwaith: 34 ac yn annog i fod yn ddioddefgar mewn erlid o achos proffesu yr efengyl.

1Yn y dyddiau hynny, amdano.

31Ac Mat 16:21; 17:22; Luc 9:22efe a ddechreuodd eu dysgu hwynt, fod yn rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, ac wedi tridiau atgyfodi.

32A’r ymadrodd hwnnw a ddywedodd efe yn eglur. A Phedr a ymaflodd ynddo, ac a ddechreuodd ei geryddu ef.

33Eithr wedi iddo droi, ac edrych ar ei ddisgyblion, efe a geryddodd Pedr, gan ddywedyd, Dos ymaith yn fy ôl i, Satan; am nad wyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion.

34Ac wedi iddo alw ato y dyrfa, gyda’i ddisgyblion, efe a ddywedodd wrthynt, Mat 10:38; 16:24; Luc 9:23; 14:27Y neb a fynno ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a dilyned fi.

35Canys Ioan 12:25pwy bynnag a fynno gadw ei einioes, a’i cyll hi: ond pwy bynnag a gollo ei einioes er fy mwyn i a’r efengyl, hwnnw a’i ceidw hi.

36Canys pa lesâd i ddyn, os ennill yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun?

37Neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid?

38Canys Mat 10:33pwy bynnag Edrych Rhuf 1:16; 2 Tim 1:8a fyddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau yn yr odinebus a’r bechadurus genhedlaeth hon; bydd cywilydd gan Fab y dyn yntau hefyd, pan ddêl yng ngogoniant ei Dad, gyda’r angylion sanctaidd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help