2 Cronicl 16 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Asa, trwy gymorth y Syriaid, yn rhwystro i Baasa adeiladu Rama. 7 Hanani yn ei argyhoeddi ef am hynny, ac yntau yn ei fwrw ef yng ngharchar. 11 Ym mhlith ei weithredoedd eraill, y mae efe, yn ei glefyd, yn ymofyn, nid â Duw, ond â’r meddygon. 13 Ei farwolaeth ef a’i gladdedigaeth.

1Yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o deyrnasiad Asa, Damascus, gan ddywedyd,

3Cyfamod sydd rhyngof fi a thi, fel y bu rhwng fy nhad i a’th dad dithau: wele, anfonais atat arian, ac aur; dos, tor dy gyfamod â Baasa brenin Israel, fel y cilio efe oddi wrthyf fi.

4A Benhadad a wrandawodd ar y brenin Asa, ac a anfonodd dywysogion ei luoedd yn erbyn dinasoedd Israel, a hwy a drawsant Ijon, a Dan, ac Abel‐maim, a holl drysor‐ddinasoedd Nafftali.

5A phan glybu Baasa hynny, efe a beidiodd ag adeiladu Rama, ac a adawodd ei waith i sefyll.

6Yna Asa y brenin a gymerth holl Jwda, a hwy a gludasant ymaith gerrig Rama, a’i choed, â’r rhai yr adeiladai Baasa; ac a adeiladodd â hwynt Geba, a Mispa.

7Y pryd hwnnw y daeth llu dirfawr, â cherbydau ac â gwŷr meirch yn aml iawn? ond am i ti roi dy bwys ar yr Arglwydd, efe a’u rhoddodd hwynt yn dy law di.

9Canys i’w ddangos ei hun yn gryf gyda’r rhai sydd a’u calon yn berffaith tuag ato ef. Ynfyd y gwnaethost yn hyn; am hynny orthrymodd rai o’r bobl y pryd hwnnw.

11Ac wele, gweithredoedd Asa, y rhai cyntaf a’r rhai diwethaf, wele, y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel.

12Ac Asa a glafychodd o’i draed yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain o’i deyrnasiad, nes i’w glefyd fyned yn ddirfawr; eto ni cheisiodd efe yr Arglwydd yn ei glefyd, ond y meddygon.

13Ac Asa a hunodd gyda’i dadau, ac a fu farw yn yr unfed flwyddyn a deugain o’i deyrnasiad.

14A chladdasant ef yn ei feddrod ei hun, yr hwn a wnaethai efe iddo yn ninas Dafydd, a rhoddasant ef i orwedd mewn gwely a lanwasid Gen 50:2â pheraroglau o amryw rywogaethau, wedi eu gwneuthur trwy waith apothecari; a hwy a gyneuasant iddo ef Pen 21:19gynnau mawr iawn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help