1Ac yn y deuddegfed mis o’r ddeuddegfed flwyddyn, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
2Ha fab dyn, cyfod alarnad am Pharo brenin yr Aifft, a dywed wrtho, morfil yn y moroedd: a daethost allan gyda’th afonydd; cythryblaist hefyd y dyfroedd â’th draed, a methraist eu hafonydd hwynt.
3Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; y tir yr wyt yn nofio ynddo, hyd y mynyddoedd; a llenwir yr afonydd ohonot.
7Ie, lawer; disgyn a gorwedd gyda’r rhai dienwaededig.
20Syrthiant yng nghanol y rhai a laddwyd â’r cleddyf: i’r cleddyf y rhoddwyd hi; llusgwch hi a’i lliaws oll.
21disgynasant, gorweddant yn ddienwaededig, wedi eu lladd â’r cleddyf.
22â’u harfau rhyfel: a rhoddasant eu cleddyfau dan eu pennau; eithr eu hanwireddau fydd ar eu hesgyrn hwy, er eu bod yn arswyd i’r cedyrn yn nhir y rhai byw.
28A thithau a ddryllir ymysg y rhai dienwaededig, ac a orweddi gyda’r rhai a laddwyd â’r cleddyf.
29Yno y mae Edom, a’i brenhinoedd, a’i holl dywysogion, y rhai a roddwyd â’u cadernid gyda’r rhai a laddwyd â’r cleddyf: hwy a orweddant gyda’r rhai dienwaededig, a chyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll.
30Yno y mae holl dywysogion y gogledd, a’r holl Sidoniaid, y rhai a ddisgynnant gyda’r lladdedigion; gyda’u harswyd y cywilyddiant am eu cadernid; gorweddant hefyd yn ddienwaededig gyda’r rhai a laddwyd â’r cleddyf, ac a ddygant eu gwaradwydd gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll.
31Pharo a’u gwêl hwynt, ac a ymgysura yn ei holl liaws, Pharo a’i holl lu wedi eu lladd â’r cleddyf, medd yr Arglwydd Dduw.
32Canys rhoddais fy ofn yn nhir y rhai byw; a gwneir iddo orwedd yng nghanol y rhai dienwaededig, gyda lladdedigion y cleddyf, sef i Pharo ac i’w holl liaws, medd yr Arglwydd Dduw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
