1 Samuel 31 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Saul, wedi colli ei wŷr, a lladd ei feibion, yn ei ladd ei hun. 7 Y Philistiaid yn perchenogi y dinasoedd a adawsai yr Israeliaid; 8 ac yn gorfoleddu ar y cyrff meirw. 11 Gwŷr Jabes Gilead yn ennill y cyrff liw nos, ac yn eu llosgi hwy yn Jabes, ac yn eu claddu yn alarus.

1A’r gwaradwyddo. Ond ni fynnai ei yswain ef; canys efe a ddychrynasai yn ddirfawr: am hynny Saul a gymerodd gleddyf, ac a syrthiodd arno.

5A phan welodd ei yswain farw o Saul, yntau hefyd a syrthiodd ar ei gleddyf, ac a fu farw gydag ef.

6Felly y bu farw Saul, a’i dri mab, a’i yswain, a’i holl wŷr, y dydd hwnnw ynghyd.

7A phan welodd gwŷr Israel, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r dyffryn, a’r rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen, ffoi o wŷr Israel, a marw Saul a’i feibion, hwy a adawsant y dinasoedd, ac a ffoesant; a’r Philistiaid a ddaethant ac a drigasant ynddynt.

8A’r bore, pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a’i dri mab yn gorwedd ym mynydd Gilboa.

9A hwy a dorasant ei ben ef, ac a ddiosgasant ei arfau ef, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o bob parth, i fynegi yn nhŷ eu delwau hwynt, ac ymysg y bobl.

10A gosodasant ei arfau ef yn nhŷ Astaroth; a’i gorff ef 2 Sam 21:12a hoeliasant hwy ar fur Jos 17:11; Barn 1:27Bethsan.

11A phan glybu trigolion Jabes Gilead yr hyn a wnaethai y Philistiaid i Saul;

12Edrych Pen 11:1–11; 2 Sam 2:4–7Yr holl wŷr nerthol a gyfodasant, a gerddasant ar hyd y nos, ac a ddygasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei feibion ef, oddi ar fur Bethsan, ac a ddaethant i Jabes, ac Jer 34:5; Amos 6:10a’u llosgasant hwynt yno.

13A hwy a gymerasant eu hesgyrn hwynt, ac 2 Sam 2:4, 5; 21:12, 13, 14a’u claddasant dan bren yn Jabes, ac ymprydiasant saith niwrnod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help