1Yr Salm 93:1 Arglwydd sydd yn teyrnasu; cryned y bobloedd: Exod 25:22; Salm 80:1eistedd y mae rhwng y ceriwbiaid; ymgynhyrfed y ddaear.
2Mawr yw yr Arglwydd yn Seion, a dyrchafedig yw efe goruwch yr holl bobloedd.
3Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy; canys sanctaidd yw.
4A Job 36:5nerth y Brenin a hoffa farn: ti a sicrhei uniondeb, barn a chyfiawnder a wnei di yn Jacob.
5 ad. 9 Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymwch o flaen 1 Cron 28:2ei ystôl draed ef: canys sanctaidd yw.
6 Jer 15:1 Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid ef; a Samuel ymysg y rhai a alwant ar ei enw: galwasant ar yr Arglwydd, ac efe a’u gwrandawodd hwynt.
7 Exod 33:9 Llefarodd wrthynt yn y golofn gwmwl: cadwasant ei dystiolaethau, a’r ddeddf a roddodd efe iddynt.
8Gwrandewaist arnynt, O Arglwydd ein Duw: Duw oeddit yn eu harbed, ie, pan Edrych Exod 32:2; Num 20:12, 24; Deut 9:20ddielit am eu dychmygion.
9 ad. 5 Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymwch ar ei fynydd sanctaidd: canys sanctaidd yw yr Arglwydd ein Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
