Lefiticus 3 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Yr aberth hedd o eidion, 6 o’r praidd: 7 naill ai oen, 12 ai gafr.

1Ac os rhwyden hefyd a fydd oddi ar yr afu, a dynn efe ymaith, ynghyd â’r arennau.

5A Pen 6:12llosged meibion Aaron hynny ar yr allor, ynghyd â’r offrwm poeth sydd ar y coed a fyddant ar y tân, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.

6Ac os o’r praidd y bydd yr hyn a offrymo efe yn hedd‐aberth i’r Arglwydd, offrymed ef yn wryw neu yn fenyw perffaith‐gwbl.

7Os oen a offryma efe yn ei offrwm; yna dyged gerbron yr Arglwydd.

8A gosoded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei waed ef ar yr allor oddi amgylch.

9Ac offrymed o’r aberth hedd yn aberth tanllyd i’r Arglwydd; ei weren, a’r gloren i gyd: torred hi ymaith wrth asgwrn y cefn, ynghyd â’r weren fol, a’r holl wêr a fyddo ar y perfedd;

10A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dynn efe ymaith.

11A llosged yr offeiriad hyn ar yr allor: Edrych Pen 21:6, 7, 8, 21, 22; 22:25; Esec 44:7; Mal 1:7, 12bwyd‐aberth tanllyd i’r Arglwydd ydyw.

12Ac os gafr fydd ei offrwm ef; dyged hi gerbron yr Arglwydd.

13A gosoded ei law ar ei phen, a lladded hi o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei gwaed hi ar yr allor o amgylch.

14Ac offrymed o hynny ei offrwm o aberth tanllyd i’r Arglwydd; sef y weren fol, a’r holl wêr a fyddo ar y perfedd;

15A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dynn efe ymaith.

16A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor: bwyd‐aberth tanllyd o arogl peraidd ydyw. Pen 7:23, 25Yr holl wêr sydd eiddo yr Arglwydd.

17Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau yn eich holl anheddau, yw: na fwytaoch ddim gwêr, na dim Gen 9:4; Pen 7:23, 26; 17:10, 14; Deut 12:16; 1 Sam 14:33; Esec 44:7gwaed.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help