3Pa hyd y bwriedwch aflwydd yn erbyn gŵr? lleddir chwi oll; a byddwch Esa 30:13fel magwyr ogwyddedig, neu bared ar ei ogwydd.
4Ymgyngorasant yn unig i’w fwrw ef i lawr o’i fawredd; hoffasant gelwydd: Salm 28:3â’u geneuau y bendithiant, ond o’u mewn y melltithiant. Sela.
5 ad. 1, 2 O fy enaid, disgwyl wrth Dduw yn unig: canys ynddo ef y mae fy ngobaith.
6Efe yn unig yw fy nghraig, a’m hiachawdwriaeth: efe yw fy amddiffynfa: ni’m hysgogir.
7Yn Nuw y mae fy iachawdwriaeth a’m gogoniant: craig fy nghadernid, a’m noddfa, sydd yn Nuw.
8Gobeithiwch ynddo ef bob amser; O bobl, 1 Sam 1:15; Galar 2:19tywelltwch eich calon ger ei fron ef: Duw sydd noddfa i ni. Sela.
9 Salm 39:5, 11; Esa 40:15, 17; Rhuf 3:4 Gwagedd yn ddiau yw meibion dynion, geudeb yw meibion gwŷr: i’w gosod yn y clorian, ysgafnach ydynt hwy i gyd na gwegi.
10Nac ymddiriedwch mewn trawster, ac mewn trais na fyddwch ofer: Job 31:25; Luc 12:15; 1 Tim 6:17os cynydda golud, na roddwch eich calon arno.
11Unwaith y dywedodd Duw, clywais hynny ddwywaith; mai eiddo Duw yw cadernid.
12Trugaredd hefyd sydd eiddot ti, O Arglwydd: canys Job 34:11; Diar 24:12; Jer 32:19; Esec 7:27; 33:20; Mat 16:27; Rhuf 2:6; 1 Cor 3:8; 2 Cor 5:10; Eff 6:8; Col 3:25; 1 Pedr 1:17; Dat 22:12ti a deli i bob dyn yn ôl ei weithred.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
