1Ac wedi gorffen hyn i gyd, holl Israel y rhai oedd bresennol a aethant allan i ddinasoedd Jwda, ac llwyr ddifa. Yna holl feibion Israel a ddychwelsant bob un i’w feddiant, i’w dinasoedd.
2A Heseceia a osododd ddosbarthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid, yn eu cylchoedd, pob un yn ôl ei weinidogaeth, yr offeiriaid a’r Lefiaid i’r poethoffrwm, ac i’r ebyrth hedd, i weini, ac i foliannu, ac i ganmol, ym mhyrth gwersylloedd yr Arglwydd.
3A rhan y brenin oedd o’i olud ei hun i’r poethoffrymau, sef i boethoffrymau y bore a’r hwyr, ac i boethoffrymau y Sabothau, a’r newyddloerau, a’r gwyliau arbennig, fel y mae yn ysgrifenedig bob yn bentwr.
7Yn y trydydd mis y dechreuasant hwy seilio’r pentyrrau, ac yn y seithfed mis y gorffenasant hwynt.
8A phan ddaeth Heseceia a’r tywysogion, a gweled y pentyrrau, hwy a fendithiasant yr Arglwydd, a’i bobl Israel.
9A Heseceia a ymofynnodd â’r offeiriaid a’r Lefiaid oherwydd y pentyrrau.
10Ac Asareia yr offeiriad pennaf o dŷ Sadoc, a ddywedodd wrtho, ac a lefarodd, dan law Cononeia a Simei ei frawd ef, trwy orchymyn Heseceia y brenin, ac Asareia blaenor tŷ Dduw.
14A Chore mab Imna y Lefiad, y porthor tua’r dwyrain, oedd ar y pethau a offrymid yn ewyllysgar i Dduw, i rannu offrymau yr Arglwydd, a’r pethau sancteiddiolaf.
15Ac wrth ei law ef yr oedd Eden, a Miniamin, a Jesua, a Semaia, Amareia, a Sechaneia, yn swydd, i roddi i’w brodyr yn ôl eu rhan, i fawr ac i fychan:
16Heblaw y gwrywiaid o’u cenedl hwynt, o fab tair blwydd ac uchod, i bawb a’r oedd yn dyfod i dŷ yr Arglwydd, ddogn dydd yn ei ddydd, yn eu gwasanaeth hwynt, o fewn eu goruchwyliaethau, yn ôl eu dosbarthiadau;
17I genedl yr offeiriaid wrth dŷ eu tadau, ac i’r Lefiaid trwy eu ffyddlondeb y trinent hwy yn sanctaidd yr hyn oedd sanctaidd:
19Ac i feibion Aaron, yr offeiriaid, y rhai oedd ym Lef 25:34; Num 35:2meysydd pentrefol eu dinasoedd, ym mhob dinas, y gwŷr a enwasid wrth eu henwau, i roddi rhannau i bob gwryw ymysg yr offeiriaid, ac i’r holl rai a gyfrifwyd wrth achau ymhlith y Lefiaid.
20Ac fel hyn y gwnaeth Heseceia trwy holl Jwda, ac efe a wnaeth yr hyn oedd dda ac uniawn, a’r gwirionedd, gerbron yr Arglwydd ei Dduw.
21Ac ym mhob gwaith a ddechreuodd efe yng ngweinidogaeth tŷ Dduw, ac yn y gyfraith, ac yn y gorchymyn i geisio ei Dduw, efe a’i gwnaeth â’i holl galon, ac a ffynnodd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.